Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau'n dathlu cwblhau ardaloedd chwarae

Mae pedair cymuned yn Abertawe'n dathlu yn dilyn cwblhau ardaloedd chwarae newydd i blant neu ardaloedd wedi'u hadnewyddu a grëwyd fel rhan o fuddsoddiad £2m gan Gyngor Abertawe.

Eleni bydd pob ward yn Abertawe'n derbyn o leiaf £36,000 i'w fuddsoddi mewn cyfarpar chwarae newydd neu i wneud atgyweiriadau i gyfleusterau presennol.

Gyda rhagor o arian yn cael ei ddisgwyl drwy gytundebau cynllunio cyfredol, cynghorwyr lleol yn defnyddio arian o'u cyllidebau amgylcheddol a chyfraniadau eraill, disgwylir i gyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2021 fod yn fwy na £2 filiwn.

Cwblhawyd gwelliannau yn Heol Frank, Parc Dynfant, Cwm Glas ym Môn-y-maen a Llanyrnewydd, Pen-clawdd. Mae'r pedwar prosiect diweddaraf yn ychwanegu at y rheini sydd wedi'u cwblhau eisoes ym Mharc Victoria, Parc Gelli Aur, Parc Knoyle ym Mhen-lan a Pharc yr Helyg yng Ngellifedw.

Mae gwaith uwchraddio a gosod cyfleusterau newydd yn cymryd tua 6 wythnos a chaiff ei wneud gan amrywiaeth o gontractwyr ar ran y cyngor.

Daw'r gwaith fel rhan o addewid gan Gyngor Abertawe i greu neu wella nifer o leoedd chwarae yn ein cymunedau wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig, ac mae'n dilyn agor yr un cyntaf ym Mharc Gelli Aur fis diwethaf.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae lleoedd chwarae i blant yn rhan allweddol o'n cymunedau sy'n galluogi plant ifanc i gael hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae Cyngor Abertawe wrth ochr ei breswylwyr o hyd. Rydym yn gweithio gydag aelodau wardiau a chymunedau lleol i gyflwyno lleoedd chwarae dros y misoedd nesaf."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021