Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae plant Pen-lan wrth eu boddau gyda'u hardal chwarae newydd

Mae plant ym Mhen-lan wedi mwynhau chwarae yn ystod yr haf diolch i waith i adnewyddu ardal chwarae boblogaidd ym Mharc Knoyle.

Ddoe cafodd ei hagor yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart gydag ychydig o gymorth gan fasgot chwarae'r cyngor, Jo Joio, sydd wedi rhoi cynnig ar rai o'r reidiau newydd hefyd.

Mae ardal chwarae Parc Knoyle ar ei newydd wedd yn cynnwys weiren sip, siglenni ar gyfer plant ifanc a phlant hŷn, sboncwyr malwoden a blodau ac amrywiaeth o gyfarpar eraill er mwyn cadw plant ifanc yn hapus am oriau ar y tro. 

Mae'r prosiect gorffenedig yn un o dros 30 o gynlluniau sy'n dod i'r amlwg ar draws y ddinas fel rhan o raglen Cyngor Abertawe gwerth mwy na £2m.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd pob ward yn Abertawe'n derbyn o leiaf £36,000 eleni fel y gellir bywiogi ardaloedd chwarae mawr eu hangen. Mae'r cyngor yn gweithio gydag aelodau ward a'r gymuned leol i sicrhau bod plant yn cael y cyfarpar y  byddant yn ei hoffi. 

"Mae'n wych bod yma heddiw i weld pobl ifanc yn mwynhau eu hunain."

Close Dewis iaith