Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad mwyaf erioed mewn adeiladau ysgolion

Gwneir y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwaith cynnal a chadw hanfodol ac uwchraddio adeiladau ysgolion yn Abertawe eleni.

Contractor fixing a window

Contractor fixing a window

Caiff arian ei wario ar doeon, systemau gwresogi a thrydanol, ailwynebu iardiau chwarae, gosod drysau a waliau newydd a gwaith atgyweirio adeiladol.

Bydd y cyllid oddi wrth Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru'n gwella amgylcheddau dysgu i filoedd o ddisgyblion.

Ysgolion fydd prif fuddiolwyr £9 miliwn a glustnodwyd yng nghyllideb eleni ar gyfer gwaith cadw a chynnal adeiladau cyhoeddus.

Mae hyn yn ychwanegol i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n werth £150 miliwn, sef y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion newydd a gwelliannau yn Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, "Mae Cyngor Abertawe'n cydnabod pwysigrwydd addysg i ddisgyblion a'u teuluoedd yn ogystal ag Abertawe gyfan.

"Trwy helpu ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn, bydd y cyngor hefyd yn cefnogi lles economaidd y ddinas yn y dyfodol.

"Dyma'r rheswm pam mae Cyngor Abertawe wedi blaenoriaethu ysgolion unwaith eto wrth i ni fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw angenrheidiol yn ein hadeiladau cyhoeddus."

Ariennir y rhaglen cynnal a chadw eleni, sy'n werth £9 miliwn, gan y cyngor, ynghyd â thrwy ddefnyddio £3.63 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru. Rhoddir yr holl arian y grantiau hyn i ysgolion.

Caiff bron £700,000 ei wario ar Ysgol Gyfun Pontarddulais i uwchraddio ei rwydweithiau gwifrau a rheiddiaduron ac i atgyweirio'r to.

Gwneir gwaith ar doeon hefyd yn ysgolion Brynhyfryd, Llanrhidian, Clwyd, y Clâs, Ynystawe, Casllwchwr, Dan-y-graig a'r Olchfa.

Gwneir gwaith ailwynebu ar iard Ysgol Gynradd St Thomas a gwaith atgyweirio yn Ysgol Gynradd Seaview.

Bydd gwaith yn cael ei wneud i wella systemau gwresogi ysgolion y Grange, Gendros ac Ysgol Gymunedol Dylan Thomas ac mae'r ysgolion lle gwneir gwaith ailweirio'n cynnwys Townhill, Mayals, y Garreg Wen, YGG Pontybrenin a St Helen's.

Ychwanegodd y Cyng. Smith, "Mae'r buddsoddiad mwyaf erioed hwn eleni wedi'i flaenoriaethu i'r ysgolion hynny â'r anghenion mwyaf. Bydd angen buddsoddiadau ar ysgolion eraill a byddwn yn ymdrin â hwy cyn gynted â phosib pan fydd arian ar gael.

"Mae'r cyngor yn buddsoddi mwy nag erioed ar isadeiledd ysgolion yn Abertawe a bydd miloedd o ddisgyblion yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2021