Cyngor yn derbyn nod ymddiriedaeth ar ôl llofnodi siarter troseddau casineb
Cydnabuwyd Cyngor Abertawe ar gyfer ei ymrwymiad parhaus i gefnogi a hyrwyddo hawliau dioddefwyr a chymunedau pan fydd digwyddiadau o droseddau casineb yn digwydd.
Y llynedd, ymunodd y cyngor â'r Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr ac mae bellach wedi derbyn nod ymddiriedaeth Siarter Troseddau Casineb trwy arddangos ei fod yn cyflawni ei addewid.
Mae'r siarter yn nodi'n fanwl hawliau dioddefwyr, ac ymrwymiadau sefydliadau fel y cyngor wrth chwarae rhan mewn mynd i'r afael â throseddau casineb, darparu cefnogaeth a gwybodaeth i ddioddefwyr, a chynyddu ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymhlith staff y cyngor a'r cymunedau y mae'r cyngor yn gweithio gyda nhw.
Mae sefydliadau sy'n mabwysiadu'r siarter yn ymrwymo i sicrhau bod disgwyl i staff a gwirfoddolwyr gadw at addewidion y siarter pryd bynnag y dônt i gysylltiad â'r rheini yr effeithir arnynt gan droseddau casineb a gweithio i adeiladu cymunedau cryf a chynhwysol.
Meddai'r Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi ennill y nod ymddiriedaeth ar ôl cofrestru ar gyfer y siarter trwy arddangos ein hymrwymiad iddi.
"Abertawe oedd Dinas Noddfa gyntaf y DU a chwaraeodd Cyngor Abertawe rhan weithredol yn y broses hon.
"Mae Abertawe'n ddinas amlddiwylliannol, fywiog, lle mae croeso i bawb - ni waeth beth fo'u hoedran, hil, tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu anabledd.
"Er bod nifer y troseddau casineb yn Abertawe'n isel o'i gymharu â dinasoedd eraill ar draws y DU, mae unrhyw drosedd casineb yma'n drosedd yn ormod, ac rydym ni fel cyngor yn parhau i gefnogi Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr yn llawn."
Troseddau casineb yw troseddau yr ystyrir gan y dioddefwr neu bobl eraill eu bod yn cael eu cymell gan ragfarn neu gasineb, p'un a ydyw oherwydd oedran, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd, ethnigrwydd neu hunaniaeth rhywedd.
I adrodd am droseddau/digwyddiad casineb ewch i https://www.reporthate.victimsupport.org.uk/ neu ffoniwch Cymorth i Ddioddefwyr 24/7 ar 0300 3031 982.