Toglo gwelededd dewislen symudol

Plant yn cael mwynhau Gŵyl Parciau'r ddinas am ddim

Bydd plant yn gallu mwynhau digwyddiadau am ddim wrth i barciau ar draws Abertawe gynnal gŵyl newydd i deuluoedd yr haf hwn.

ParksFest advert

ParksFest advert

Bydd preswylwyr Townhill, Waunarlwydd, Treforys, Casllwchwr a St Thomas ymhlith y rheini na fydd angen iddynt deithio'n rhy bell i fwynhau diwrnod mas difyr.

Bydd gweithgareddau ac atyniadau sy'n addas i deuluoedd yn y deuddydd o ddigwyddiadau'n cynnwys dau ddangosiad sinema awyr agored ar y diwrnod cyntaf, yna gweithgareddau i blant gan gynnwys gweithdai sgiliau syrcas, sesiynau crefft, castell neidio, reidiau i blant, cymeriadau sy'n cerdded o gwmpas y safle, gweithgareddau chwaraeon a cherddoriaeth fyw ar yr ail ddiwrnod. Bydd lluniaeth a bar ar gael ar y ddau ddiwrnod.

Mae Gŵyl Parciau Abertawe yn cael ei threfnu gan Gyngor Abertawe ac yn derbyn cymhorthdal ganddo.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies,  "Mae'n wych gallu croesawu digwyddiadau yn ôl i Abertawe ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau am ein bod ni am i gynifer o deuluoedd â phosib allu mwynhau'r gweithgareddau hyn yn ein parciau hyfryd.

"Rydym yn cadw costau mynediad mor isel â phosib fel y gall pob plentyn dan 16 oed fynd am ddim pan fydd yng nghwmni oedolyn sy'n talu. Rydym hefyd yn rhoi cymhorthdal ar gyfer y tocynnau i oedolion sy'n golygu eu bod hefyd yn werth gwych am arian gan y byddant yn cael gweld dwy ffilm yn y sinema awyr agored felly gallant aros yna am y noson.

"Gobeithiwn y bydd Gŵyl Parciau Abertawe yn helpu teuluoedd i fwynhau eu haf i'r eithaf."

Pris tocynnau i oedolion yw £4.50 y dydd, £2.50 yn unig yw pris consesiynau a £2 gydag aelodaeth Pasbort i Hamdden. Mae'n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn, gydag uchafswm o 3 phlentyn fesul oedolyn er diogelwch.

Does dim angen i'r rheini sydd eisoes wedi prynu tocynnau wneud unrhyw beth, gan y bydd unrhyw arbedion yn cael eu had-dalu'n awtomatig i'w cyfrifon.

Dyma leoliadau a dyddiadau'r digwyddiadau: Parc Waunarlwydd - 19-20 Awst, Parc Paradwys 21-22 Awst, Parc Treforys 27-28 Awst, Parc Williams 29-30 Awst, Parc Jersey 10-11 Medi. Gall y rheini sy'n teithio i'r ŵyl fwynhau teithiau am ddim ar wasanaethau bysus lleol o ddydd Gwener i ddydd Llun tan 30 Awst. 

Mae sefydliadau Abertawe sy'n rhan o'r digwyddiad yn cynnws Circus Eruption ac Oriel Elysium. Mae perfformwyr cerddoriaeth yn cynnwys This River, Ragsy, Soulskunks a The Revolvers.

Mae'r ffilmiau'n amrywio rhwng lleoliadau. Maent yn cynnwys Finding Nemo, The Greatest Showman, The Jungle Book a Mamma Mia!

Am ragor o wybodaeth am y dangosiadau, perfformiadau cerddoriaeth fyw ac atyniadau eraill, ewch i'r dudalen digwyddiadau bwrpasol - www.croesobaeabertawe.com/blog/2021/08/10/gwyl-parciau-abertawe-2021/

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2021