Toglo gwelededd dewislen symudol

Teuluoedd sy'n ffoi o Affganistan yn cyrraedd y ddinas

Mae dau deulu a orfodwyd i ffoi o Affganistan yn ymgartrefu i'w cartrefi newydd yn Abertawe, a disgwylir i ragor gyrraedd yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Swansea Bay

Mae Cyngor Abertawe yn cymryd rhan mewn cynllun ar draws y DU i groesawu pobl a oedd yn wynebu erledigaeth wrth i'r Taliban feddiannu'r wlad.

Yr wythnos hon, mae dau deulu yr oedd eu haelodau wedi gweithio i Lywodraeth Prydain wedi cyrraedd y ddinas ar ôl iddynt orfod ymgilio o'r wlad fis diwethaf.

Mae'r cyngor a'r elusen EYST yn Abertawe yn eu helpu i ymgartrefu yma.

Mae disgwyl i deulu arall gyrraedd Abertawe cyn bo hir ac mewn ymateb i ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf, mae Cyngor Abertawe wedi cysylltu â'r Swyddfa Gartref i gynnig cartrefi pellach.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Ni allai'r sefyllfa yn Affganistan fod yn fwy difrifol, gyda llawer o bobl yn wynebu erledigaeth ac yn ofni am eu bywydau wrth i'r Taliban gipio rheolaeth.

"Cyn i'r argyfwng hwn ddechrau, roedd Cyngor Abertawe wedi cynnig cartref i rai o'r rheini a oedd yn cael eu symud o'r wlad dros yr ychydig fisoedd blaenorol ond mae'n amlwg bod y sefyllfa wedi dirywio'n gyflym dros yr wythnos diwethaf.

"Rydym wedi cysylltu â'r Swyddfa Gartref eto i ddweud y byddwn yn parhau i chwarae ein rhan wrth gynnig cartrefi diogel a chroesawgar i'r rheini y mae arnynt eu hangen.

"Mae'r teuluoedd sydd wedi cyrraedd yr wythnos hon wedi gweithio i Lywodraeth Prydain yn Affganistan ac os nad oeddent wedi cael eu symud oddi yno, byddent yn wynebu dyfodol arswydus ac annirnadwy.

"Mae gan y DU a'r Gorllewin rwymedigaeth foesol i'r bobl hyn ac fel Dinas Noddfa gyntaf Cymru, byddwn yn gwneud popeth y gallwn.

"Mae gan ein dinas draddodiad balch o groesawu teuluoedd sy'n ffoi o wrthdaro ac erledigaeth ac yn y blynyddoedd diweddar mae teuluoedd o wledydd sy'n cynnwys Syria, Iran ac Irac wedi ymgartrefu yn Abertawe."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2021