Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiad Risg Llifogydd Rhagarweiniol

Ystyr asesiad perygl llifogydd rhagarweiniol yw asesiad lefel uchel o berygl llifogydd lleol a llifogydd blaenorol a phosib sy'n helpu i nodi lle gallai fod perygl llifogydd yn y dyfodol.

Ar 22 Rhagfyr 2011, cyflwynwyd Asesiadau Risg Llifogydd Rhagarweiniol (PFRA) i'r cyhoedd drwy borth gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Am y tro cyntaf, mae asesiad o berygl llifogydd lleol wedi'i lunio gan 174 o Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cyflawni gofynion statudol o dan Gyfarwyddeb Llifogydd yr UE, a roddir ar waith yng Nghymru a Lloegr o dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009 (y Rheoliadau). Cânt eu defnyddio i wneud penderfyniadau a galluogi camau gweithredu a dargedir gan awdurdodau lleol.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld PFRA Dinas a Sir Abertawe

Preliminary Flood Risk Assessment (PDF, 1 MB)

Adendwm Asesiad Risg Llifogydd Rhagarweiniol (PDF, 9 KB)

Beth yw PFRA?

Asesiad manwl o berygl llifogydd lleol yw PFRA, sy'n cynnwys casglu ac adrodd ar wybodaeth am lifogydd yn y gorffennol (hanesyddol) ac yn y dyfodol (posib) i nodi lle gall y perygl o lifogydd fod yn broblem mewn ardal LLFA. Yn ogystal, defnyddir gwybodaeth yn y PFRA i gadarnhau Ardaloedd Perygl Llifogydd - ardaloedd lle mae perygl llifogydd yn broblem sylweddol ac mae camau nesaf Cyfarwyddeb Llifogydd yr UE yn gymwys.

Mae PFRA ond yn cynnwys ffynonellau lleol o berygl llifogydd h.y. llifogydd o ddyfgyrsiau arferol (afonydd bychain, nentydd a dyfrffosydd), dŵr ffo a dŵr daear. Nid ydynt yn cynnwys perygl llifogydd o brif afonydd, y môr a chronfeydd dŵr, oherwydd mai cyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd yw ffynonellau'r llifogydd hyn. Fodd bynnag, maent yn ystyried rhyngweithio â'r holl ffynonellau posib o lifogydd lle y bo'n briodol.

Pam mae PFRA yn bwysig?

Mae PFRA yn darparu asesiad cynhwysfawr o berygl llifogydd o ffynonellau lleol ledled Cymru a Lloegr am y tro cyntaf. Cânt hefyd eu defnyddio i ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer LLFA i ddatblygu eu strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol y mae eu hangen o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.

Pwy sydd wedi bod yn rhan o lunio PFRA?

LLFA oedd yn gyfrifol am ddatblygu PFRA. Mae'r cyfrifoldebau o dan y Rheoliadau'n gyson â'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, sy'n rhoi rôl i awdurdodau lleol gydlynu rheoli ffynonellau lleol o beryg llifogydd.

Sut nodwyd Ardaloedd Perygl Llifogydd?

Cyflwynodd Defra a Llywodraeth Cymru arweiniad ar ddull ar gyfer dewis ac adolygu Ardaloedd Perygl Llifogydd a oedd yn cynnwys gosod meini prawf a throthwyon. Penderfynodd y Gweinidogion ar y trothwyon.

Mae deg Ardal Perygl Llifogydd dangosol yn Lloegr sy'n cynnwys oddeutu traean o'r eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr arwynebol gydag wyth yng Nghymru sy'n cynnwys oddeutu 40 y cant o eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr arwynebol yng Nghymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2021