Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Asesiad risg tân

Mae cynnal asesiad o risg diogelwch tân yn y gweithle yn orfodol. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn gwmni mawr neu'n unig fasnachwr.

Cyfrifoldeb y cyflogwr, perchennog, neu'r person sy'n rheoli'r adeilad yw cynnal yr asesiadau hyn. Gosodir hyn gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Y mesurau i'w hystyried yw:

  • ffordd o ddianc os bydd tân.
  • sicrhau y gellir defnyddio'r ffordd o ddianc yn ddiogel ar bob adeg.
  • mesurau ar gyfer darparu offer ymladd tân.
  • mesur ar gyfer canfod tân yn yr eiddo a rhoi rhybudd.
  • mae'r camau gweithredu os bydd tân yn cynnwys:
    • cyfarwyddo a hyfforddi gweithwyr
    • ffordd o leddfu ar effaith tân.

Pan fydd 5 neu fwy o weithwyr neu os oes trwydded gan yr eiddo neu mae hysbysiad newid ar waith, yna mae'n rhaid cofnodi'r asesiad risg tân ac unrhyw ganfyddiadau sylweddol.

Gallwn ddarparu'r gwasanaeth hwn i chi drwy ein harolygwyr proffesiynol cymwys. Felly os ydych yn unig fasnachwr, yn siop fach, yn swyddfa neu'n unrhyw adeilad masnachol arall gallwn eich helpu.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Reoli Adeiladau ar 01792 635636 neu e-bostiwch ni yn rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk