Atgyfeiriad Cynllun Datblygu Unigol
Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn gynllun sy'n cael ei greu a'i gytuno gan y bobl hynny sy'n ymwneud agosaf â chefnogi plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys rheini / gofalwyr.
Os yw dysgwr mewn lleoliad addysg, y lleoliad hwnnw sydd yn y sefyllfa orau i lunio CDU. Mae'n broses gydweithredol a fydd yn sicrhau bod anghenion a dyheadau'r dysgwr yn ganolog iddo.
Os ydych yn rhiant / ofalwr ac rydych yn dymuno gofyn am CDU, trafodwch hyn â lleoliad addysg eich plentyn yn y lle cyntaf. Os ydych yn anghytuno â'r lleoliad addysg, cysylltwch â'r tîm gwaith achos cyn llenwi'r ffurflen hon, gan y byddant yn gallu'ch cefnogi, e-bost: caseworker@abertawe.gov.uk