Gwobr y Faner Borffor
Mae Abertawe wedi ennill Baner Borffor sy'n ceisio codi safonau a gwella ansawdd ein trefi a'n dinasoedd rhwng 5.00pm a 5.00am.
Rydym am sicrhau bod pobl sy'n ymweld ag Abertawe'n teimlo'n ddiogel a'u bod mewn dinas sy'n lân yn ddeniadol ac yn hygyrch.
Dinas lle gallant gael noson dda allan, yn y tafarnau a chlybiau lleol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys celfyddydau a diwylliant, hamdden, bwyd a chiniawa, addysg a digwyddiadau.
Mae gwobr fawreddog y Faner Borffor yn gynllun achredu cenedlaethol sy'n cydnabod rheoli canol dinasoedd yn ardderchog yn y nos, yn debyg i'r Faner Las ar gyfer traethau a'r Faner Werdd ar gyfer parciau, sy'n cael ei chefnogi gan y llywodraeth, yr heddlu a busnes.
Abertawe yw'r unig le yng Nghymru sydd â baneri glas, gwyrdd a phorffor ar hyn o bryd a dim ond llond dwrn o leoedd yn y DU sydd â phob un.
Mae lleoedd sydd wedi ennill y Faner Borffor wedi dangos bod cyfradd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau trwy annog amrywiaeth eang o bobl yng nghanol y ddinas yn y nos.
Pa ardal mae'r Faner Borffor yn ei chynnwys?
Canol y ddinas i'r gogledd i Stryd Mansel/Heol Alexandra a'r orsaf drenau, i'r dwyrain i'r afon, i'r de i'r Marina, ac i'r gorllewin i Stryd Dillwyn.
Edrychwch ar fap ardal y Faner Borffor (PDF, 466 KB)
Pwy mae proses y Faner Borffor yn ei gynnwys?
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Cyngor Dinas Abertawe, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes, Fforwm Trwyddedeion Abertawe, Prifysgol Abertawe, Bugeiliaid y Stryd, BID Abertawe, busnesau preifat, gan gynnwys siopau, bwytai, tafarnau a chlybiau, cyfryngau lleol, chwaraeon a darparwyr adloniant.
Beth yw manteision statws y Faner Borffor?
I fusnesau lleol
- mwy o sylw a gwell delwedd gyhoeddus
- cyfle i hyrwyddo ar wefan y Faner Borffor
- economi defnydd cymysg fwy llwyddiannus
- rhagor o ymwelwyr
- rhagor o wariant
- dichonoldeb economaidd tymor hwy
I bawb
- amrywiaeth ehangach o atyniadau
- llai o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- cynhelir gwasanaethau cefnogi
- dinas fywiog.