Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobr y Faner Borffor

Mae Abertawe wedi ennill Baner Borffor sy'n ceisio codi safonau a gwella ansawdd ein trefi a'n dinasoedd rhwng 5.00pm a 5.00am.

Purple flag logo.

Rydym am sicrhau bod pobl sy'n ymweld ag Abertawe'n teimlo'n ddiogel a'u bod mewn dinas sy'n lân yn ddeniadol ac yn hygyrch.

Dinas lle gallant gael noson dda allan, yn y tafarnau a chlybiau lleol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys celfyddydau a diwylliant, hamdden, bwyd a chiniawa, addysg a digwyddiadau.

Mae gwobr fawreddog y Faner Borffor yn gynllun achredu cenedlaethol sy'n cydnabod rheoli canol dinasoedd yn ardderchog yn y nos, yn debyg i'r Faner Las ar gyfer traethau a'r Faner Werdd ar gyfer parciau, sy'n cael ei chefnogi gan y llywodraeth, yr heddlu a busnes. 

Abertawe yw'r unig le yng Nghymru sydd â baneri glas, gwyrdd a phorffor ar hyn o bryd a dim ond llond dwrn o leoedd yn y DU sydd â phob un.

Mae lleoedd sydd wedi ennill y Faner Borffor wedi dangos bod cyfradd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau trwy annog amrywiaeth eang o bobl yng nghanol y ddinas yn y nos.

Pa ardal mae'r Faner Borffor yn ei chynnwys?

Canol y ddinas i'r gogledd i Stryd Mansel/Heol Alexandra a'r orsaf drenau, i'r dwyrain i'r afon, i'r de i'r Marina, ac i'r gorllewin i Stryd Dillwyn.  

  Edrychwch ar fap ardal y Faner Borffor (PDF) [466KB] 

Pwy mae proses y Faner Borffor yn ei gynnwys?

Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Cyngor Dinas Abertawe, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes, Fforwm Trwyddedeion Abertawe, Prifysgol Abertawe, Bugeiliaid y Stryd, BID Abertawe, busnesau preifat, gan gynnwys siopau, bwytai, tafarnau a chlybiau, cyfryngau lleol, chwaraeon a darparwyr adloniant.

Beth yw manteision statws y Faner Borffor?

I fusnesau lleol

  • mwy o sylw a gwell delwedd gyhoeddus
  • cyfle i hyrwyddo ar wefan y Faner Borffor
  • economi defnydd cymysg fwy llwyddiannus
  • rhagor o ymwelwyr
  • rhagor o wariant
  • dichonoldeb economaidd tymor hwy

I bawb

  • amrywiaeth ehangach o atyniadau
  • llai o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • cynhelir gwasanaethau cefnogi
  • dinas fywiog.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Chwefror 2023