Baneri y tu allan i adeiladau'r cyngor
Darganfyddwch ba faneri sy'n chwifio y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig a Neuadd y Ddinas.
Baner | Pryd mae'n chwifio |
---|---|
Baner Genedlaethol Cymru - y ddraig goch | 24 awr |
Baner genedlaethol y Deyrnas Unedig - Jac yr Undeb | 24 awr |
Baner Dewi Sant - croes aur ar gefndir du | Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) |
Baner y Gymanwlad - glôb aur wedi'i amgylchynu gan 34 gwaywffon aur ar gefndir glas | Diwrnod y Gymanwlad (12 Mawrth) |
Baner yr Arglwydd Faer - arfbais ddinesig ar gefndir gwyn | Diwrnod urddo'r Arglwydd Faer (o gwmpas 8 Mai) |
Baneri Cymraeg a Saesneg y cyngor - logo coch y cyngor ar gefndir gwyn | Diwrnod urddo'r Arglwydd Faer (o gwmpas 8 Mai) |
Diwrnod y Lluoedd Arfog - Jac yr Undeb â thestun Diwrnod y Lluoedd Arfog | Wythnos sy'n arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog (diwedd mis Mehefin) |
Lluman Coch - Jac yr Undeb ar y gornel chwith uchaf ar gefndir coch | Diwrnod y Llynges Fasnachol (3 Medi neu'r penwythnos agosaf) |
Baner enfys | Mis Hanes LGBT (mis Chwefror) Pride Abertawe (penwythnos cyntaf mis Mai) |
Baner Hawliau Plant y cyngor - Logo Dilly'r Ddraig ar gefndir gwyn | Diwrnod Byd-eang y Plant (20 Tachwedd) |
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2021