Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ydych chi'n gymwys i arddangos baner ar bont?

Mae'r protocol canlynol yn berthnasol i'r holl drefniadau a wnaed gan sefydliadau mewnol ac allanol ar ôl 1 Ebrill 2022

Gwybodaeth gyffredinol

Mae'r holl drefniadau ar gyfer cyfnod o bythefnos (fel a ddengys ar y calendr trefniadau) a chaiff y baneri eu harddangos am y cyfnod cyfan. Gallwch wneud trefniadau hyd at 3 mis ymlaen llawn, ar sail y cyntaf i'r felin.

Caniateir baneri sy'n hysbysebu digwyddiadau neu weithgareddau sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r gymuned leol ac ymwelwyr ar yr amod nad ydynt yn ymwneud â digwyddiadau masnachol, crefyddol neu wleidyddol. Caniateir baneri ar gyfer gweithgareddau masnachol os caiff y digwyddiadau a hysbysir eu hyrwyddo ar y cyd â Chyngor Abertawe.

Bydd trefniadau ar gyfer un ochr o'r bont lle caniateir un faner. Caiff y faner ei gosod gan staff Cyngor Abertawe a chaiff ei gosod ar yr ochr chwith (gyda llif y traffig).

Efallai caiff trefniad ei wrthod am y rhesymau canlynol:

  • Mae'r amserlen yn anaddas
  • Mae'r trefniad rhy bell ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad sy'n cael ei hyrwyddo
  • Nid yw'r faner yn bodloni'r safonau cynhyrchu neu mae'r cynnwys yn anaddas.

Mae'n rhaid cyflwyno'r faner/baneri i Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE erbyn canol dydd ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun lle disgwylir i'r faner gael ei gosod ar y bont, neu mae'n bosib caiff y trefniad ei ganslo ac ni roddir ad-daliad.

Manyleb y faner

Bydd angen i'r person/sefydliad sy'n trefnu arddangos y faner gyflwyno'r faner/baneri ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r fanyleb ganlynol:

  • maint argymelledig y faner yw 7m x 1m. Ni ddylai'r faner fod yn fwy na hyn. Ni ddylai'r faner fod yn llai na 6m x 1m
  • mae'n rhaid i'r faner gael ei chreu gan ddefnyddio PVC sgrim cyfnerthedig 550g/m2, sydd wedi'i gorffen gyda hemiau wedi'u troi sydd naill ai wedi cael eu weldio neu'u pwytho gan ddefnyddio cotwm cryfder gwlyb cyfnerthedig
  • dylai'r hemiau gael eu pwnsio gyda llygadennau pres gyda diamedr mewnol o 10mm ac mae'n rhaid i'r llygadennau fod o leiaf 600mm ar wahân, gydag uchafswm o 1m rhwng pob un. 
  • dylai cynnwys y faner for mor syml ac mor glir â phosib a dylid ei gyfyngu i deitl y digwyddiad/gweithgaredd, dyddiad, amser a lleoliad yn ogystal â'r logos perthnasol yn unig
  • byddwn yn cael gwared ar faneri nad oes modd eu darllen o ymyl y ffordd a chodir tâl amdanynt o hyd
  • mae gan Gyngor Abertawe bolisi'r Iaith Gymraeg sy'n nodi y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Felly, anogir sefydliadau i ystyried cynhyrchu baneri dwyieithog.

Indemniadau a ffïoedd

Mae adran ddatganiad y ffurflen drefnu'n amlinellu'r indemniadau angenrheidiol ar gyfer y trefniad, ac mae'n rhaid cytuno i'r rhain fel rhan o'r broses drefnu.

Mae'n rhaid talu am yr holl drefniadau yn ystod y broses drefnu.

Codir tal o £315 a TAW ar sefydliadau anelusennol fesul baner, fesul pythefnos, sy'n cynnwys gosod y faner/baneri a chael gwared arnynt.

Codir tal o £193 a TAW ar sefydliadau elusennol fesul baner, fesul pythefnos, sy'n cynnwys gosod y faner/baneri a chael gwared arnynt. Bydd angen rhif yr elusen ar gyfer yr opsiwn hwn.

Dylunio a chynhyrchu'r faner

Os hoffech i ni ddylunio a chynhyrchu'r faner ar eich rhan, cost y gwasanaeth hwn yw £200 (a TAW). Caiff proflen y faner ei hanfon atoch i'w chymeradwyo cyn iddi gael ei hargraffu. Mae'r opsiwn hwn ar gael ar y ffurflen drefnu.

Ar ôl eich cyfnod arddangos

Yn dilyn y cyfnod arddangos, os ydych chi'n dewis i ni ddychwelyd y faner atoch, bydd gennych bythefnos i gasglu'r faner o Neuadd y Ddinas. Ar ôl y cyfnod hwn, os na chaiff y faner ei chasglu, byddwn yn cael gwared arni.

Amodau arbennig

Rhoddir blaenoriaeth i faneri ar gyfer digwyddiadau, yn hytrach na baneri sy'n cynnwys hysbysebion parhaus, rhwng mis Ebrill a mis Medi. Bydd gan y Rheolwr Twristiaeth a Marchnata y penderfyniad terfynol.

Mae gan y Cyngor yr hawl i ganslo unrhyw drefniadau ar gyfer baneri ar bontydd ar unrhyw adeg. Mae hyn yn golygu caiff yr holl gontractau gyda phartïon allanol eu dirymu.

Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r gwasanaethau marchnata os ydych chi am ganslo'ch trefniad 4 wythnos cyn dyddiad gosod y faner neu bydd y ffïoedd yn berthnasol o hyd.

Sylwer, mae'r protocol hwn yn cyfeirio at drefniadau ar gyfer y pontydd troed canlynol yn Ninas a Sir Abertawe yn unig. Dyma'r pontydd dan sylw:

  • Pont y brifysgol - y tu allan i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe
  • Pont Ysgol yr Olchfa - y tu allan i Ysgol yr Olchfa
  • Pont Cyffordd Dyfaty - ar draws Dyfatty Street
  • Pont Sgeti - y tu allan i Eglwys Sant Paul/Cyffordd De La Beche Road
  • Fabian Way - y tu allan i The Union Inn, Port Tennant

Lleoliad y pontydd a gynhwysir yn y cynllun hwn? Lleoliad y pontydd a gynhwysir yn y cynllun hwn?

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Chwefror 2025