Toglo gwelededd dewislen symudol

Trysorau lleol ar gael yr haf hwn

Mae Cyngor Abertawe ar fin gwneud un o'r lotrïau blynyddol pwysicaf ar gyfer un o'i hasedau gwerthfawr.

Langland beach huts

Caiff y cytiau traeth Edwardaidd gwyn a gwyrdd amlwg ym Mae Langland eu dyrannu i breswylwyr lwcus ar hap, a bydd hyn yn digwydd ym mis Mawrth eleni.

Gall preswylwyr sy'n byw yn Abertawe gyflwyno cais ar lein yn awr ar gyfer un o'r 57 o gytiau traeth sydd ar gael, y mae golygfa odidog o un o faeau hardd Gŵyr i'w cael ohonynt.

Mae opsiynau rhentu, sy'n dechrau o fis Ebrill 2024, yn cynnwys cytundebau tenantiaeth tri mis, pedwar mis, chwe mis, deg mis a deuddeg mis.

Mae'r cyfle i wneud cais am y cytiau traeth poblogaidd yn dod i ben ar 2 Chwefror a bob blwyddyn mae cannoedd yn gwneud cynnig amdanynt drwy'r broses tynnu tocyn.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein cytiau traeth eiconig yn Langland wedi bod yn rhan o'r bae ers degawdau.

"Oherwydd eu bod mor boblogaidd, mae angen i ni gynnal lotri a thynnu tocynnau bob blwyddyn er mwyn sicrhau ein bod yn eu dyrannu'r cytiau mewn ffordd deg.

"Gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddewis o amrywiaeth o gyfnodau rhentu a byddwn yn rhoi gwybod i'r ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ym mis Mawrth."

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae Bae Langland yn boblogaidd iawn ymhlith preswylwyr ac ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Mae'r buddsoddiad blaenorol i ailadeiladu'r morglawdd a'r ffaith ein bod wedi dynodi'r traeth fel un 'di-fwg' yn rhan o'n hymdrechion parhaus i sicrhau bod y bae'n lle pleserus i ymweld ag ef."

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am gwt traeth yw 12 Chwefror am 12 ganol dydd.https://www.abertawe.gov.uk/cytiaubaelangland

 

Close Dewis iaith