Rhowch eich barbeciws tafladwy yn y bin pan fyddwch ar y traeth
Anogir ymwelwyr â'r traeth i wneud y peth iawn a defnyddio biniau gwastraff neu fynd â'u sbwriel adref gyda nhw'r haf hwn, yn enwedig barbeciws tafladwy.
Dros fisoedd prysur yr haf, mae'r cyngor wedi bod yn cynyddu ei gasgliadau sbwriel ar y traeth ac wedi cynyddu nifer y biniau sydd ar gael i bobl gael gwared ar eu sbwriel yn gyfrifol.
Mae pymtheg o finiau coch newydd ar gyfer barbeciws tafladwy yn cael eu gosod ar draethau poblogaidd sy'n eiddo i'r cyngor mewn pryd ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn, y mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes yn eu lle ac yn cael eu defnyddio.
Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw esgus i bobl adael eu sbwriel ar y traeth yr haf hwn.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol mai cyfrifoldeb y rheini sy'n mynd i'r traeth yw cael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol a mynd ag ef adref gyda nhw os yw'r biniau'n llawn.
Meddai, "Mae'n anobeithiol bod pobl yn meddwl ei fod yn dderbyniol iddynt gladdu poteli, barbeciws neu unrhyw wastraff arall yn y tywod ar ddiwrnod mas. Nid yw hyn yn gyfrifol a gall ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r fath fod yn beryglus iawn i ddefnyddwyr eraill y traeth.
"Rydym wedi buddsoddi miloedd o bunnoedd yn gosod biniau gwastraff parhaol ar gyfer barbeciws ac arwyddion cysylltiedig mewn lleoedd fel Porth Einon, Horton, Caswell a Langland gyda rhagor i ddod yn Rotherslade ac ar hyd Prom Abertawe lle mae pump wedi'u hychwanegu'n barod.
"Felly does dim esgus mwyach i bobl adael eu barbeciws tafladwy ar y traeth wrth iddynt fynd adref. Mae barbeciws a siarcol yn cadw eu gwres am oriau ar ôl iddynt gael eu defnyddio a gall hyn achosi llosgiadau difrifol i bobl sy'n sefyll arnynt yn ddamweiniol."
Yn ogystal â'r biniau, mae tîm glanhau'r cyngor yn gosod arwyddion ar draethau y mae'r cyngor yn gofalu amdanynt yn annog pobl i wneud y peth iawn a chael gwared ar eu barbeciws tafladwy yn gyfrifol.
Mae timau glanhau traethau'r cyngor hefyd yn glanhau'r traethau bob bore yn ystod yr haf a thrwy gydol y dydd. Maent yn aml yn cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr sydd hefyd am weld traethau glân. Mae timau ychwanegol hefyd yn targedu mannau lle ceir llawer o sbwriel ar yr adegau prysuraf.
Ond dywedodd y Cyng. Anderson, er bod y cyngor yn chwarae ei ran, mae angen i ymwelwyr wneud yr un peth. Meddai, "Oes, mae gennym biniau yn eu lle, ac oes, mae arwyddion wedi'u gosod ar y traethau sy'n rhybuddio pobl am daflu sbwriel, ac ydy, mae'r cyngor yn gweithio'n galed i lanhau traethau'n barhaus.
"Ond y rheini sy'n dod â'r nwyddau i'r traeth yn y lle cyntaf sy'n gyfrifol yn y pen draw am fynd â'r sbwriel a'r gwastraff adref gyda nhw neu ddefnyddio'r biniau a ddarperir gan y cyngor. Dylai pobl wneud y peth iawn bob tro."
Rhestr o draethau lle mae'r biniau barbeciws tafladwy wedi'u lleoli:
Bae Langland - 2 fin
Porth Einon
Horton
Rotherslade
Lleoliadau rhwng Bae Abertawe, rhwng Pier y Gorllewin a'r Mwmbwls, gan gynnwys
Mynedfa maes parcio'r lle chwarae'r Pwynt i'r traeth
Ar ben grisiau'r Ganolfan Ddinesig ger y traeth
Y Slip ger Bay View
Y grisiau ger maes parcio The Secret, gyferbyn â Pharc Victoria
Ger The Secret
Y Slip ger Brynmill Lane
Uwchben nant Clun ger yr atyniad golff-troed
Blackpill, un ar bob pen yr ardal bicnic