Rhowch eich barbeciws tafladwy mewn bin
Mae rhagolygon y tywydd ar gyfer Gŵyl Banc y Pasg a thu hwnt yn edrych yn addas i ymwelwyr, felly mae Cyngor Abertawe yn gofyn i'r rheini sy'n bwriadu mynd i'r traeth wneud y peth iawn gyda'u barbeciws tafladwy.
![new BBQ bins](/image/8196/new-BBQ-bins/standard.jpg?m=1653568171337)
Mae pymtheg bin coch ar gyfer barbeciws tafladwy newydd gael eu gosod ar gyfer yr haf mewn traethau poblogaidd sy'n eiddo i'r cyngor, felly does dim esgus i bobl adael eu sbwriel o gwmpas y lle ar y traeth.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol mai cyfrifoldeb y rheini sy'n mynd i'r traeth yw cael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol, a mynd ag ef adref gyda nhw os yw'r biniau'n llawn.
Mae sawl achos wedi bod yn y blynyddoedd diweddar lle mae plant wedi cael eu creithio am oes drwy sefyll ar ddamwain ar farbeciws a gladdwyd yn ein traethau. Mae lleoli'r biniau coch amlwg iawn yn ymdrech ychwanegol ar ran y cyngor i atal hyn rhag digwydd eto.
"Rydym wedi buddsoddi miloedd o bunnoedd yn gosod biniau gwastraff barbeciws ac arwyddion cysylltiedig mewn mannau fel Porth Einon, Horton, Caswell a Langland a hefyd yn Rotherslade ac ar hyd Prom Abertawe."
Ond dywedodd y Cyng. Anderson, er bod y cyngor yn chwarae ei ran, mae angen i ymwelwyr wneud yr un peth. Meddai, "Oes, mae gennym finiau yn eu lle, ac oes, mae arwyddion wedi'u gosod ar y traethau sy'n rhybuddio pobl am daflu sbwriel, ac ydy, mae'r cyngor yn gweithio'n galed i lanhau traethau'n barhaus.
"Pa beth bynnag y mae pobl yn dod ag ef i'r traeth, nhw sy'n gyfrifol yn y pen draw am gael gwared arno'n iawn. Dylai pobl wneud y peth iawn bob tro."
Rhestr o draethau lle mae'r biniau barbeciws tafladwy wedi'u lleoli:
Bae Langland - 2 fin
Porth Einon
Horton
Rotherslade
Lleoliadau ym Mae Abertawe, rhwng Pier y Gorllewin a'r Mwmbwls, gan gynnwys
Mynedfa maes parcio'r lle chwarae'r Pwynt i'r traeth
Y Slip ger y Bay View
Y grisiau ger maes parcio The Secret, gyferbyn â Pharc Victoria
Ar bwys The Secret
Y Slip ger Brynmill Lane
Uwchben nant Clun ger yr atyniad golff-troed
Blackpill, un ar bob pen yr ardal bicnic - 3 fin