Biniau coch llachar ar gyfer barbeciws tafladwy yn dychwelyd ar gyfer yr haf
Mae pymtheg o finiau coch llachar ar gyfer barbeciws tafladwy yn cael eu gosod ar draethau poblogaidd sy'n eiddo i'r Cyngor dros yr wythnosau nesaf felly does dim esgus i bobl adael eu sbwriel ar y traeth.
Mae'r biniau tymhorol yn cael eu hail-osod mewn pryd ar gyfer gŵyl y banc gyntaf mis Mai wrth i'r tywydd gynhesu a'r nosweithiau fynd yn hwy.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol mai cyfrifoldeb y rhai sy'n mynd i'r traeth yw cael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol a mynd ag ef adref gyda nhw os yw'r biniau'n llawn.
Dywedodd fod barbeciws tafladwy sy'n cael eu gadael ar y traeth yn peri risg i eraill, yn enwedig i blant nad ydyn nhw efallai'n eu gweld neu'n sylweddoli pa mor boeth ydyn nhw.
Rhestr o draethau lle mae'r biniau barbeciws tafladwy wedi'u lleoli:
Bae Langland - 2 fin
Porth Einon
Horton
Rotherslade
Lleoliadau rhwng Bae Abertawe, rhwng Pier y Gorllewin a'r Mwmbwls, gan gynnwys
Mynedfa maes parcio'r lle chwarae'r Pwynt i'r traeth
Ar ben grisiau'r Ganolfan Ddinesig ger y traeth
Y Slip ger Bay View
Y grisiau ger maes parcio The Secret, gyferbyn â Pharc Victoria
Ger The Secret
Y Slip ger Brynmill Lane
Uwchben nant Clun ger yr atyniad golff-troed
Blackpill, un ar bob pen yr ardal bicnic