Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw rôl gwarchodwr?

Arweiniad yn unol â dogfen 'cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel' 2015 Llywodraeth Cymru.

Mae rhaid i bob plentyn sy'n cymryd rhan mewn perfformiad neu weithgaredd dderbyn gofal da a chael ei oruchwylio ar bob amser. Ni all y rhieni wneud hyn bob amser, felly bydd y cyngor yn cymeradwyo gwarchodwyr i ofalu am y plentyn a gweithredu er ei les pan fyddant yn cymryd rhan yn y perfformiad neu'r gweithgaredd. Mae hyn yn berthnasol os yw'r plentyn yn byw gartref neu os yw'r plentyn i ffwrdd o gartref o bryd i'w gilydd. Blaenoriaeth bennaf y gwarchodwr ar bob amser yw lles gorau'r plentyn y mae'n gofalu amdano, gan gynnwys ei iechyd, ei les a'i addysg, drwy gydol cyfnod y perfformiad neu'r gweithgaredd.

Mae angen gwarchodwr pan na fydd rhiant neu athro'r plentyn yn gallu goruchwylio'r plentyn am gyfnod y perfformiad, yr ymarfer neu'r gweithgareddau. Os yw'r plentyn yn cael ei oruchwylio gan un o'i rieni neu gan un o'i athrawon arferol neu'n derbyn gofal ganddynt (er enghraifft, yn ystod cynhyrchiad ysgol), nid oes angen gwarchodwr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i aelodau eraill o deulu'r plentyn. Os yw tad-cu neu fam-gu yn dod i ddigwyddiad gyda phlentyn, yna bydd angen gwarchodwr o hyd oni bai fod gan y tad-cu neu'r fam-gu gyfrifoldeb rhiant.

Hyfforddiant ac addasrwydd

Dylai'r rheini sydd am gael eu cymeradwyo fel gwarchodwyr gyflwyno cais i'r cyngor. Rhaid i'r rheini sy'n gwneud cais am gymeradwyaeth fel gwarchodwyr gael eu hystyried yn addas cyn y gallant gyflawni unrhyw ddyletswyddau gwarchodwr.

Yn ogystal, bydd angen i'r cyngor fod yn fodlon bod gwarchodwr yn addas a bod ganddo'r gallu i fod yn gyfrifol am y plant. Bydd hynny mwy na thebyg yn cynnwys geirdaon, gwiriad cyfoes gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (Yn agor ffenestr newydd) a thystiolaeth o brofiad, cymwysterau ac unrhyw beth arall sy'n dangos y gallu a'r addasrwydd i ofalu am blant. Ni all gwarchodwr fod yn gyfrifol am fwy na 12 plentyn ar unrhyw adeg neu, os yw'n gweithredu fel athro preifat, dim mwy na thri.

Dyletswyddau cyffredinol

Unig ddyletswydd y gwarchodwr yw'r plentyn ac mae hyn y tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau neu ofynion gan unrhyw berson neu gyflogwr arall. Mae'n rhaid i'r gwarchodwr fod yn hyrwyddwr ac yn eiriolwr i'r plentyn, gan amddiffyn y plentyn rhag unrhyw gais nad yw'n credu ei fod er lles gorau'r plentyn neu a allai gael effaith andwyol ar ei iechyd, ei les neu'i addysg. 

Golyga hyn hefyd y dylai'r plentyn fod yn gyffyrddus â'r gwarchodwr fel y gall rannu unrhyw bryderon sydd ganddo. Mae'n rhaid i warchodwr herio unrhyw ymddygiad neu weithredoedd nad yw'n eu hystyried yn briodol pan fydd plant yn bresennol, gan godi unrhyw bryderon ynghylch iechyd, diogelwch a risg mewn unrhyw ran o'r perfformiad neu'r gweithgaredd.

Bydd rôl hyrwyddwr hefyd yn golygu y bydd y gwarchodwr yn sicrhau na fydd disgwyl i blentyn nad yw'n teimlo'n hwylus berfformio ac ni ddylai egwyliau gael eu lleihau gan alwadau bod y plentyn yn barod yr eiliad y mae'r egwyl yn dod i ben. Ceir hefyd rôl amddiffyn plant: Mae angen i warchodwr sicrhau ni chaiff plant eu gadael gydag oedolion eraill (ac eithrio'u rhieni neu eu hathrawon) a rhaid iddynt amddiffyn y plentyn rhag cael ei orfodi i wneud rhywbeth nad yw am ei wneud, boed yn rhan o'r perfformiad neu'r gweithgaredd neu oddi ar y llwyfan.

Gan mai rôl sy'n ymwneud yn llwyr â diogelu'r plentyn yn ei ofal yw hon, rhaid i warchodwyr ymddwyn yn briodol wrth ofalu am y plentyn. Rhaid iddynt osgoi unrhyw ymddygiad a allai beryglu lles y plentyn, megis yfed alcohol neu smygu pan fyddant yn gweithio, gofalu am blentyn pan fyddant yn feddw, gwisgo dillad anweddus neu ddefnyddio iaith anweddus o flaen plentyn.  

Yn yr un modd, gall y gwarchodwr ond gwneud y swydd wrth ofalu am y plant. Nid yw'n bosib bod yn aelod o'r gynulleidfa, gweithio y tu ôl i'r llwyfan neu fod yn gysylltiedig ag unrhyw weithgaredd sy'n rhan o'r perfformiad mewn rhyw ffordd. Bydd yn rhaid i rieni sy'n ymgymryd â rôl gwarchodwr hefyd ymgymryd â'r rôl honno'n unig pan fyddant yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer. Os ydynt am wylio perfformiad yn lle aros gyda'r plentyn, bydd angen gwarchodwr arall i aros gyda'r plentyn er mwyn cydymffurfio â gofynion y drwydded.

Dylai gwarchodwr feddu ar restr 'Cysylltiadau Allweddol' ar gyfer pob plentyn yn ei ofal. Dylai hyn gynnwys rhieni/gofalwyr, awdurdod trwyddedu'r plentyn, yr awdurdod cynnal (lle cynhelir y perfformiad neu'r gweithgaredd), unrhyw asiantiaid a thîm rheoli'r cwmni sy'n trefnu'r digwyddiad. Dylid aros mewn cyswllt agos bob amser â'r trefnydd a deiliad y drwydded sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i ddiogelu'r plentyn. Gellir cymeradwyo'r gwarchodwr gan awdurdod lleol gwahanol i'r awdurdod a gyhoeddodd drwydded ar gyfer y plentyn.

Sgriptiau

Lle y caniateir hynny gan y drwydded, gall gwarchodwr ofyn i weld fersiwn ddiweddaraf y sgript a ddefnyddir ar gyfer y perfformiad er mwyn cadarnhau ei bod yn briodol i'r plentyn. Bydd yr hyn sy'n briodol yn dibynnu ar y plentyn, ei oedran a'r cynhyrchiad dan  sylw. Dylai'r gwarchodwr godi pryderon gyda'r cynhyrchwyr er mwyn diogelu'r plentyn yn ei ofal. Os na leddfir y pryderon, dylai'r gwarchodwr gysylltu â'r Trwyddedau Perfformiad Plant ar gyfer y plentyn er mwyn ei hysbysu o'i bryderon.

Disgresiwn ac amseroedd gorffen

Gall y gwarchodwr benderfynu a fydd plentyn yn cael gweithio yn hwyrach na'r amser gorffen hwyraf mewn amgylchiadau eithriadol. Weithiau, bydd cynhyrchiad theatr yn gor-redeg neu gall ffilmio gael ei ohirio am resymau technegol, gan olygu y bydd angen i'r plentyn aros yn hwyrach nag y caniateir gan y Rheoliadau neu'r drwydded. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gall y gwarchodwr gytuno i estyniad hyd at awr ar y mwyaf, cyhyd â'i fod yn fodlon na fydd effaith andwyol ar les y plentyn ac ni fydd cyfanswm oriau'r plentyn am y diwrnod hwnnw (gan gynnwys yr amser ychwanegol y cytunwyd arno) yn mynd y tu hwnt i'r uchafswm a ganiateir. Yna, dylai'r gwarchodwr ddweud wrth yr awdurdodau lleol perthnasol (hynny yw, yr awdurdod a gyhoeddodd drwyddedau'r plant dan sylw a'r awdurdod lle cynhelir y digwyddiad) y cytunwyd ar estyniad a'r rhesymau dros gytuno iddo.

Mae'r disgresiwn hwn at ddiben achlysurol yn unig, lle ceir amgylchiadau anarferol neu annisgwyl sy'n gohirio cynhyrchiad. Dylai gwarchodwyr ystyried cais am estyniad mewn sefyllfaoedd eithriadol yn unig. Ni ddylid ei ddefnyddio'n rheolaidd neu er mwyn gwneud yn iawn am ddiffyg amserlenni gan drefnwyr y digwyddiad. Byddai'n rhesymol i awdurdod lleol ofyn am wybodaeth ychwanegol neu gwestiynu nifer yr estyniadau a roddwyd os mae'n ymddangos i'r awdurdod bod y ddarpariaeth yn cael ei defnyddio'n ormodol.

Gall y gwarchodwr hefyd gytuno i gwtogi un o'r egwyliau am fwyd i ddim llai na 30 munud os bydd perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored. Eto, disgwylir y bydd hyn yn ddigwyddiad achlysurol yn unig.

 

Sut i gyflwyno cais am drwydded?

Dim ond person â chyfrifoldeb am sicrhau bod plentyn wedi'i ddiogelu'n iawn all wneud cais am drwydded.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwyddedau 3 mis cyn dechrau'r perfformiad.

Rhaid i bob cais gael ei gwblhau o fewn 3 mis o ddyddiad cyflwyno'r cais.

Cymeradwyaeth fel gwarchodwr - gwneud cais ar-lein Cymeradwyaeth fel gwarchodwr - gwneud cais ar-lein

Ailgymeradwyaeth fel gwarchodwr - gwneud cais ar-lein Ailgymeradwyaeth fel gwarchodwr - gwneud cais ar-lein

Dyletswyddau gwarchodwr

Meini prawf ar gyfer y rôl.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024