Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Diffiniad o ADY

Pan fydd ysgolion neu'r cyngor yn ymwneud â gwneud y penderfyniad ynghylch a oes gan blentyn / person ifanc ADY, byddant yn cyfeirio at y diffiniad hwn wrth wneud eu penderfyniad.

Bydd y tabl canlynol yn eich arwain drwy'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn.

Diffiniad o ADY
Prawf 1 Prawf 2 

A oes gan y plentyn neu'r person ifanc anabledd (a all godi o gyflwr meddygol neu beidio)?

  • A yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael mwy o anhawster i ddysgu na'r rhan fwyaf o bobl eraill yr un oed?
  • A oes gan y plentyn neu'r person ifanc anabledd (o fewn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010) sy'n atal neu'n rhwystro'r plentyn neu'r person ifanc rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu SABau prif ffrwd?

 

Ydy i'r naill neu'r llall

A yw'r anhawster dysgu neu anabledd yn golygu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)?

Ydy i'r naill neu'r llall

Ydy - mae gan y plentyn neu'r person ifanc ADY

Nac oes / nac ydy

Nac oes / nac ydy

Nac ydy - nid oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY

 

Mae'r diffiniad cyfreithiol isod, ond os ydych yn pryderu bod gan eich plentyn angen dysgu ychwanegol, siaradwch â'r ysgol, yr athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).

Mae'n bwysig nodi y gall plentyn / person ifanc gael anawsterau dysgu heb fod ganddo angen dysgu ychwanegol. Yn yr achos hwn, bydd yr ysgol neu'r coleg yn cefnogi'r dysgwr gan ddefnyddio strategaethau sydd ar gael i bob dysgwr yn yr ysgol. Yr enw ar hyn yw Darpariaeth Gyffredinol.

Beth yw'r diffiniad cyfreithiol o ADY?

Mae'r Ddeddf yn dweud bod gan blentyn / berson ifanc anghenion ychwanegol os:

  1. Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
  2. Mae gan blentyn sydd o'r oedran ysgol gorfodol neu berson sy'n hŷn na'r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd:
    • os yw'n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na'r mwyafrif o'r rhai eraill sydd o'r un oedran, neu
    • os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ei atal neu'n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
  3. Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw'r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o'r oedran ysgol gorfodol.
  4. Os yw'r iaith (neu'r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy'n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny'n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

Cyf: Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.

Beth yw'r diffiniad cyfreithiol o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

Os nodir bod gan eich plentyn angen dysgu ychwanegol yna efallai y bydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arno.

  1. Ystyr 'darpariaeth ddysgu ychwanegol' i berson sy'n dair oed neu'n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy'n ychwanego at yr hyn, neu sy'n wahanol i'r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o'r un oedran:
    • mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,
    • mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu
    • mewn mannu yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin. Ystyr 'addysg feithrin' yw addysg sy'n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.
  2. 'Additional learning provision' for a child aged under three means educational provision of any kind.

Cyf: Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023