Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw Cydlynydd Ardal Leol?

Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yno i'r gymuned gyfan.

Mae Cydlynydd Ardal Leol yn cerdded ochr yn ochr â chi a'ch cymuned wrth i chi:

  • Wneud cysylltiadau a ffrindiau newydd
  • Cymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau
  • Goresgyn heriau personol
  • Dweud eich dweud wrth bobl mewn pŵer ac ymwneud â gwella gwasanaethau cyhoeddus
  • Gwneud eich cyfraniad i'ch cymuned
  • Ystyried sut beth yw bywyd da i chi

Sut mae'n gweithio?

Gall unrhyw un gwrdd â Chydlynydd Ardal Leol.

Gallech gwrdd â nhw yn eich ardal leol neu drwy rywun arall yn eich cyflwyno iddyn nhw.

Byddwch chi a'ch Cydlynydd Ardal Leol yn dod i adnabod eich gilydd ar eich telerau eich hunan, gan archwilio'ch syniad o fywyd da a'ch cynlluniau i gyflawni hyn.

Mae'r nifer o weithiau rydych yn cwrdd yn dibynnu ar beth rydych chi am ei gyflawni.

Gallant eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am eich cymuned a'ch cyflwyno i bobl gyfeillgar a chymwynasgar.

Gallant eich helpu i archwilio a datblygu'ch cryfderau a'ch cefnogi i rannu'ch sgiliau a'ch doniau ag eraill. Gallant eich helpu i gysylltu â gwasanaethau swyddogol os mai dyna sydd ei angen arnoch.

Ydyn nhw'n helpu grwpiau hefyd?

Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yno i'r gymuned gyfan.

Maent yn helpu grwpiau cymunedol lleol i ddal ati a thyfu drwy gyflwyno mwy o bobl i'r grŵp a'u cefnogi gyda phethau fel dod o hyd i gyfleodd ariannu.

Gall Cydlynwyr Ardaloedd Lleol hefyd gefnogi pobl i sefydlu grwpiau newydd pan fo gan rywun syniad i ddechrau rhywbeth newydd.

Close Dewis iaith