Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwerth £55 miliwn o welliannau i gartrefi cyngor gam yn agosach

Bydd tenantiaid y cyngor ar draws Abertawe yn elwa o welliannau i'w cartrefi diolch i fuddsoddiad o fwy na £55m yn y flwyddyn sy'n dod.

council housing 1

Caiff mwy na £40m ei fuddsoddi yn y fflatiau uchel yn Nyfaty mewn rhaglen a fydd yn arwain at wella fflatiau ac adeiladau tenantiaid y tu mewn a'r tu allan, gan gynnwys ceginau, ystafelloedd ymolchi newydd, gwelliannau tân a diogelwch a gwell inswleiddio i arbed ynni.

Bydd menter arloesol 10 mlynedd y cyngor sef 'Rhagor o Gartrefi' yn cael hwb hefyd i helpu i gyflwyno rhagor o dai fforddiadwy i'w rhentu, gydag arian yn cael ei wario ar 19 o gynlluniau a phrosiectau.

Neilltuwyd arian hefyd er mwyn parhau â chynllun llwyddiannus y cyngor i brynu'n ôl eiddo'r cyngor a oedd wedi cael eu gwerthu dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu gynharach.

Mae'r gwariant yn rhan o'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cartrefi sy'n eiddo i'r cyngor i'w rhentu'n fforddiadwy yn y ddinas, lle mae £500m wedi'i fuddsoddi yn y degawd diwethaf a mwy na 10,000 o gartrefi wedi'u gwella.

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo'r rhaglen ar gyfer uwchraddio tai dros y 12 mis sy'n dod y bydd angen cytundeb terfynol ar ei gyfer gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.