Biniau barbeciw ar draethau
Er mwyn gwaredu barbeciwiau'n ddiogel, gan gynnwys glo poeth, mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno biniau gwrth-dân ar draethau sy'n boblogaidd ar gyfer cael barbeciw.
Mae traethau'n lleoedd gwych i ymlacio, bwyta a chael hwyl trwy'r dydd, ond mae gwastraff o farbeciwiau un tro a chyffredin yn gallu bod yn risg iechyd i blant yn benodol.
Er mwyn gwaredu barbeciwiau'n ddiogel, gan gynnwys glo poeth, mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno biniau gwrth-dân ar draethau sy'n boblogaidd ar gyfer cael barbeciw.
Traethau â biniau barbeciw:
- Bae Caswell
- Langland
- Rotherslade
- Bae Abertawe, ger The Secret Bar and Kitchen
Darperir y biniau er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gwared ar lo poeth a gwastraff barbeciwiau, a fydd yn helpu i leihau'r risg o ddamweiniau sy'n gysylltiedig â barbeciwiau tafladwy'n benodol, gan gynnwys llosgiadau gan lo poeth sydd wedi'i gladdu o dan arwyneb y tywod.
Cofiwch:
- gwlychwch y barbeciw â dŵr oer pan fyddwch wedi gorffen, gan sicrhau bod y tân wedi'i ddiffodd a bod y glo'n oer.
- taflwch y barbeciw a/neu'r glo yn y biniau barbeciw a ddarperir. Peidiwch â rhoi'r barbeciwiau neu'r glo mewn unrhyw fin arall.
- taflwch unrhyw wastraff arall yn y biniau sbwriel a ddarperir.
- NI chaniateir tân agored ar y traeth neu yn yr ardal gyfagos.
- peidiwch â dod â photeli gwydr i'r traeth.