Blitz Tair Noson
Arweiniodd bomio Abertawe gan y Luftwaffe yn ystod yr Ail Ryfel Byd at dair noson o ddinistr ar 19, 20 a 21 Chwefror 1941. Trowyd canol Abertawe a'i strydoedd prysur yn bentwr o rwbel.
Mae Chwefror 2021 yn nodi 80 o flynyddoedd ers y bomio a newidiodd Abertawe am byth. I nodi'r dyddiad rydym wedi casglu gwybodaeth ynghyd gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Oriel Gelf Glynn Vivian ac is-adrannau eraill o'r cyngor.
Hanes y Blits Tair Noson Abertawe
Crewyd y ffilm yma o luniau sydd dan ein gofal i ddweud stori y tair noson ddychrynllyd ym mis Chwefror 1941.
Cofio'r Blits Abertawe
Drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, bomiodd y Luftwaffe Dde Cymru. Dyma ein cofeb i feirwon sifil y rhyfel yng Ngorllewin Morgannwg.
Paentiadau o ganlyniadau'r Blitz Tair Noson
Mae'r artist lleol, Will Evans, wedi adlewyrchu'r sefyllfa drychinebus drwy gyfres o baentiadau, sy'n rhan o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian: Dinas a Sir Abertawe. Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i wefan Glynn Vivian.
Prynu The Three Nights' Blitz gan Dr John Alban
Mae'r awdur wedi cyfuno cyfres o adroddiadau cyfoes o ffynonellau o Brydain a'r Almaen sydd, gyda'i gilydd, yn taflu cryn dipyn o oleuni ar y cyrchoedd hyn. Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i wefan Siop Abertawe.
Llyfrgelloedd Abertawe, Canolfan Dylan Thomas a Amgueddfa Abertawe
Mae eleni'n nodi 80 o flynyddoedd ers y Blitz Tair Noson, a byddwn yn nodi'r dyddiad drwy rannu straeon, ffotograffau a sgyrsiau o'n lleoliadau Gwasanaethau Diwylliannol.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 26 Gorffenaf 2021