Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwynhewch ein traethau baner las gwych yr haf hwn

Mae tri o'n traethau hardd yng Ngŵyr wedi cadw'u statws y Faner Las mewn pryd ar gyfer gŵyl banc diwedd mis Mai.

Dyfarnwyd statws nodedig y Faner Las i Fae Caswell, Bae Langland a Phorth Einon ar gyfer 2023.

Mae Gwobr y Faner Las yn eco-label sy'n enwog ar draws y byd y mae miliynau o bobl yn ymddiried ynddo gan ei fod yn golygu bod y dŵr ymdrochi o'r safon uchaf posib.

Mae Marina Abertawe hefyd wedi cadw'i statws fel un o'r ychydig Farinas Baner Las yng Nghymru.

Ac mae Bae Bracelet hefyd wedi derbyn y Wobr Arfordir Glas chwenychedig i gydnabod ei harddwch dilychwin a garw. Mae'r wobr yn disodli gwobr y Faner Las ond gellir sicrhau ymwelwyr fod y traeth ac ansawdd y dŵr ym Mae Bracelet o safon y Faner Las o hyd.

Mae'r Wobr Arfordir Glas yn cydnabod trysorau cudd a chanddynt ansawdd dŵr rhagorol ac amgylchedd heb dilychwin ond nad oes ganddynt yr isadeiledd a'r rheolaeth ddwys sydd fel arfer yn gysylltiedig â chyrchfannau glan môr traddodiadol.

Cymerwch gip ar ein gwedudalen traethau benodedig i gael rhagor o wybodaeth am ein detholiad gwych o draethau a baeau o gwmpas Bae Abertawe: https://www.abertawe.gov.uk/traethau  

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Mai 2023