Toglo gwelededd dewislen symudol

Byddwch yn Gynghorydd

Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan y gymuned maent yn ei chynrychioli er mwyn penderfynu sut y dylai'r Cyngor roi ei amrywiaeth o weithgareddau ar waith.

Mae gan gynghorwyr yr hawl i wahanol fathau o gyflogau, lwfansau a threuliau yn ddibynnol ar y rolau a'r cyfrifoldebau sydd ganddynt - mae fideo gan Lywodraeth Cymru ar gael ar YouTube (Yn agor ffenestr newydd).

Mae cynghorwyr yn gweithredu fel penderfynwyr, cyfeirwyr, gweithwyr achos, gwirfoddolwyr cymunedol, gwarchodwyr ac ymgyrchwyr. Mae cynghorwyr yn penderfynu sut mae gwasanaethau'r cyngor yn cael eu rheoli; yn rhan o bennu cyllideb gyffredinol y cyngor; yn helpu i osod safonau ar gyfer yr amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gan y cyngor, cefnogi etholwyr gyda phroblemau sydd ganddynt gyda'r cyngor neu asiantaethau eraill a sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu darparu'n gywir.

Os hoffech wybod mwy am fod yn gynghorydd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe a'i wasanaethau gallwch fynychu un o'r cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus neu siarad yn anffurfiol ag un o'r Cynghorwyr neu grwp gwleidyddol presennol.

Bydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mai 2017.

Gofynion Cyfreithiol

Er mwyn cael eich ethol yn Gynghorydd mae'n rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad yr enwebiad
  • fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yn ddinesydd cymwysedig y Gymanwlad neu'n ddinesydd Gwladwriaeth arall y Gymuned Ewropeaidd.

ac un o'r canlynol:

  • Rydych wedi cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr awdurdod lleol yr hoffech weithredu ynddi o ddiwrnod eich etholiad ymlaen, a pharhau wedi'ch cofrestru yno.
  • Rydych wedi byw fel perchennog neu denant ar unrhyw dir neu fangre arall yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
  • Mae eich prif neu unig le gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad wedi bod yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Rydych wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.

Ni allwch sefyll fel Ymgeisydd os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych yn cael eich cyflogi gan yr awdurdod lleol neu mae gennych swydd ac yn derbyn tâl gan yr awdurdod (gan gynnwys byrddau neu gyd-bwyllgorau).
  • Mae gennych swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol.
  • Rydych yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn interim.
  • Rydych wedi cael eich dedfrydu i gyfnod yn y carchar am dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd ohiriedig), heb y dewis i dalu dirwy, yn ystod y pum mlynedd cyn diwrnod yr etholiad.
  • Rydych wedi cael eich diarddel dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cynnwys arferion etholiadol llygredig neu anghyfreithlon yn ymwneud â chyfraniadau) neu dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998.

Mae gwybodaeth bellach am y broses o ddod yn gynghorydd a sefyll fel ymgeisydd mewn Etholiad Llywodraeth Leol (gan gynnwys yr amrediad llawn o waharddiadau) ar gael gan y Y Comisiwn Etholiadol (Yn agor ffenestr newydd). Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (Yn agor ffenestr newydd) a Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi gwybodaeth am fod yn gynghorydd. Yn ogystal, mae fideo gan yr Ombwdsmon ar gael i'w wylio ar YouTube - 'Y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau - Canllaw Cynghorwyr i rol Ombwdsman Grasanaethau Cyhoeddus Cymru' (Yn agor ffenestr newydd).

Taliadau i Gynghorwyr

Os ydych yn ystyried sefyll mewn etholiad i fod yn gynghorydd, dyma wybodaeth am y taliadau y gallech eu derbyn.
Close Dewis iaith