Ardaloedd chwarae yn rhoi hwb i blant y ddinas
Plant yn ardal Bôn-y-maen yw'r diweddaraf i weld eu hardal chwarae gymunedol yn cael ei thrawsnewid diolch i raglen uwchraddio gwerth £7m Cyngor Abertawe.
Disgwylir i waith ar bum ardal chwarae arall yng Nghanolfan y Ffenics yn Townhill, Plas-marl, Gendros, Pontlliw a Chlydach ddechrau ar ddiwedd yr haf fel rhan o brosiect uwchraddio cyfleusterau chwarae mwyaf Cymru.
Disgwylir i ddeg arall gael eu cytuno dros y misoedd nesaf a fydd yn dod â nifer y cynlluniau a gwblhawyd i fwy na 60 o dan raglen hynod boblogaidd sydd wedi bod o fudd i gymunedau ledled Abertawe.
Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae mae cymunedau ar draws Abertawe wedi gweld buddsoddiad mewn ardaloedd gan gynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.
Heblaw am siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol, mae nodweddion rhai safleoedd hefyd wedi cynnwys gwifrau gwib, fframiau dringo a thrampolinau.
I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd