Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllideb y cyngor yn 'sicrhau adferiad'

Bydd Abertawe'n gweld y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwasanaethau allweddol sy'n effeithio ar fywydau pob dydd preswylwyr.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Fel rhan o gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn neithiwr, bydd arian yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion, gofal cymdeithasol, strydoedd, parciau a ffyrdd.

Bydd y gyllideb ar gyfer adferiad y pandemig yn cynnwys cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad dros y blynyddoedd i ddod mewn tai cyngor, ysgolion newydd, ardaloedd chwarae a gwasanaethau cymunedol hanfodol eraill fel mynd i'r afael â sbwriel a gwasanaethau bysus am ddim.

Bydd teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn gweld costau prydau ysgol yn cael eu rhewi tan o leiaf 2025 a bydd treth y cyngor yn cynyddu 20c yr wythnos yn unig i'r rheini ar raddfa treth y cyngor Band B - sy'n sylweddol is na chwyddiant.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn i bawb oherwydd y pandemig. Ond mae'r gyllideb y cytunwyd arni'n un a fydd yn sicrhau adferiad, yn rhoi hwb i'n cymunedau ac yn helpu i greu gwell Abertawe."

Mae'r prif benderfyniadau'n cynnwys:

·       £13.6m ychwanegol ar gyfer addysg yn gyffredinol, sy'n golygu y bydd gan ysgolion dros £179m i'w wario ar addysgu'n pobl ifanc

·       £16m ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n golygu bod cyfanswm o £144.7 i'w wario ar y gwasanaethau plant a theuluoedd a gofalu am y diamddiffyn a'r henoed

·       Gallai'r Gronfa Adferiad Economaidd gael hwb hyd at £45m

·       £570,000 ar gyfer timau glanhau cymunedol newydd ym mhob ardal yn Abertawe, yn ogystal â £100,000 yn rhagor ar gyfer cenhedlaeth newydd o finiau sbwriel 'clyfar' a gosod biniau newydd

·       Timau atgyweirio ffyrdd PATCH mwy i gynnal rhagor o welliannau ym mhob ward ledled y ddinas.

·       Y cynnig digwyddiadau mwyaf erioed, gan gynnwys atyniadau newydd, i hybu twristiaeth a busnes

·       £100,000 ar gyfer toiledau cyhoeddus

·       £5m i uwchraddio'r holl ardaloedd chwarae i blant sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe

·       £1m ar gyfer parciau sglefrio a chymorth ieuenctid

·       Bydd y cynnig Bysus am Ddim poblogaidd yn parhau ar ddyddiau penodol tan y Nadolig

·       Cyllid ar gyfer rhwydwaith o ddiffibrilwyr achub bywyd ledled y ddinas

·       Mwy o gefnogaeth i gyn-filwyr a menter hollbwysig Men's Sheds

·       Dim ffïoedd am leiniau i glybiau chwaraeon

·       Grym gwario o £1.8m y dydd ar wasanaethau hanfodol.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Abertawe wedi trawsnewid y ffordd y mae'n gweithredu er mwyn bod yma i bobl Abertawe, a'u cefnogi drwy'r pandemig.

"Mae'r gyllideb hon yn golygu y byddwn ni yno o hyd, ochr yn ochr â'n cymunedau wrth i ni ddod allan o'r pandemig gyda'n gilydd."

Yn y blynyddoedd i ddod bydd tua £413m o wariant cyfalaf, gan gynnwys £153m ar genhedlaeth newydd o ysgolion, yn dilyn ymlaen o bedair a agorwyd yn y chwe mis diwethaf.

Bydd y cyngor hefyd yn gwario miliynau o bunnoedd ar adeiladu tai cyngor newydd, adnewyddu tai cyngor presennol a chefnogi'r digartref.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig mae angen ein cefnogaeth ar ein plant a phobl ifanc yn fwy nag erioed o'r blaen. Dyna pam mae prisiau prydau ysgol wedi'u rhewi, mae gwariant ar addysg yn cynyddu a bydd buddsoddiad mewn gwasanaethau plant a theuluoedd yn codi.

Bydd trwyddedau parcio am ddim hefyd ar gyfer staff gofal cartref a gomisiynir ynghyd ag ymrwymiad i isafswm cyflog o £10 yr awr i holl staff y cyngor.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyngor wedi cefnogi busnesau gydag £190m o arian grant a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi cefnogi cymunedau drwy'r Gronfa Adferiad Economaidd gwerth £20m. Mae disgwyl i'r gronfa gael hwb o hyd at £45m a bydd yn cael ei thargedu i ddiwallu anghenion y gymuned.

I gydnabod Jiwbilî Platinwm y Frenhines, ni fydd unrhyw ffïoedd cau ffyrdd ar gyfer cymunedau sy'n cynnal partïon stryd ac er mwyn sicrhau etifeddiaeth Abertawe fel Dinas Hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines, bydd miloedd o goed a choed chwip yn cael eu plannu yn ystod y flwyddyn.  

 

Close Dewis iaith