Toglo gwelededd dewislen symudol

Y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwasanaethau hanfodol yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi'r swm mwyaf erioed o arian mewn ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, er ei fod yn wynebu pwysau ariannol enfawr.

swansea from the air1

Fel cynghorau eraill ar draws y DU, mae Abertawe'n wynebu pwysau cyllidebol digynsail o ganlyniad i gostau uwch a galw cynyddol gan breswylwyr, wrth brofi toriadau cyllidebol mewn termau go iawn gan y Llywodraeth.

Mae hanes blaenorol da y Cyngor o reolaeth ariannol a'i ddefnydd doeth o adnoddau yn golygu bod ganddo ddigon o arian i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen y flwyddyn nesaf. Mae hefyd yn cynnig cynnydd o £1.40 yr wythnos mewn treth y cyngor ar gyfer cartrefi Band B a fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau.

Mae cynigion cyllidebol y Cyngor yn golygu y bydd ysgolion yn derbyn mwy na £200 miliwn am y tro cyntaf, a bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn derbyn £14 miliwn yn ychwanegol i gefnogi pobl ddiamddiffyn.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r Cyngor yn wynebu rhai o'r sefyllfaoedd ariannol mwyaf difrifol erioed oherwydd cyfuniad o chwyddiant cynyddol, costau uwch a galw cynyddol gan breswylwyr, wrth i'r cyllid a roddir i ni gan y Llywodraeth ostwng mewn termau go iawn.

"Mae gennym hanes blaenorol da o ddefnyddio'n harian yn gall a lleihau ein costau, sy'n golygu y gallwn roi mwy o arian nag erioed o'r blaen i wasanaethau hanfodol fel ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol.

"Rydym hefyd yn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen ar adeg lle mae nifer o gynghorau eraill yn gorfod cau canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a lleihau eu casgliadau sachau du i fantoli'r cyfrifon.

"Rydym yn gwybod bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi drwy'r amserau anodd hyn."

I helpu i ariannu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau, mae'r Cyngor yn cynnig cynnydd o 4.99% mewn treth y cyngor, yn ogystal ag 1% yn ychwanegol a fydd yn cael ei roi yn uniongyrchol i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r Cyngor wedi bod yn ymgynghori ar ei gynigion cyllidebol a bydd y Cabinet yn cwrdd ar 15 Chwefror i drafod ei gynigion.

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Chwefror 2024