Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i chi ddweud eich dweud am gynigion cyllidebol

Anogir preswylwyr y ddinas i ddweud eu dweud am flaenoriaethau cyllidebol Cyngor Abertawe ar gyfer y flwyddyn i ddod.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Mae'r Cabinet wedi cytuno i symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar raglen uchelgeisiol a fydd yn gweld buddsoddiad yng ngwasanaethau hanfodol y cyngor yn codi o leiaf 7% y flwyddyn nesaf, gyda rhai gwasanaethau fel addysg a gofal cymdeithasol yn cael hyd yn oed yn fwy.

Yn ôl yr ymgynghoriad, a fydd yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 11 Chwefror, cynigir buddsoddi £34m ychwanegol mewn gwasanaethau sy'n cyffwrdd â bywydau preswylwyr lleol bob dydd dros y pedair blynedd nesaf.

Er y bydd y cyngor yn cael arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, nodwyd gwerth £4.8m o arbedion effeithlonrwydd a moderneiddio gwasanaethau hefyd i helpu i wrthbwyso ymhellach y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, chwyddiant a chostau eraill.

Ni ddisgwylir unrhyw ddiswyddiadau eleni, diolch i ymdrechion a wnaed gan y cyngor i ddiogelu swyddi a gwasanaethau a buddsoddi ynddynt.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Croesewir y cynnydd mawr ei angen mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar yr adeg hon. Mae'n golygu y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r problemau a achoswyd oherwydd blynyddoedd o gyni gan lywodraeth y DU."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif, er y cynnydd mewn cyllid eleni, y bydd angen cyfraniad oddi wrth dreth y cyngor ar bob awdurdod lleol o hyd.

"Fodd bynnag, oherwydd rheolaeth ariannol lem yn Abertawe mewn perthynas ag adnoddau, rydym yn bwriadu gosod lefel treth y cyngor sy'n deg ond sydd hefyd yn adlewyrchu'r pwysau ychwanegol ar breswylwyr a theuluoedd o ganlyniad i'r pandemig.

"Byddwn yn sicrhau na fyddwn yn gofyn am arian oni bai fod ei angen ar gyfer buddsoddiadau pellach mewn blaenoriaethau sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd a chaiff pob ceiniog ei wario ar addysg, ysgolion, gofal cymdeithasol, gofal plant neu flaenoriaethau cymunedol."

Ychwanegodd, "Y flwyddyn nesaf, byddwn yn buddsoddi cyfwerth â £4,000 i bob teulu yn Abertawe, sy'n cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf erioed yn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd.

"Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o gymorth i helpu adferiad yr economi leol, i gefnogi a chadw swyddi, creu cyfleoedd a helpu busnesau i ddatblygu a lleihau tlodi yn ein cymunedau.

"Mae'r cyngor wedi dod yn fwy clyfar, yn gryfach ac yn fwy effeithlon yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi lleihau'r gost fenthyca gyfartalog, gwariant swyddfa gefn, gwasanaethau mwy modern a mân-reolau diangen ac mae hyn wedi helpu i dorri costau'r hyn rydym yn ei wneud o filiynau o bunnoedd. Wrth i ni newid ein ffordd o weithio'n sylweddol, rydym wedi llwyddo i arbed mwy na £70m yn y pum mlynedd diwethaf yn unig."

Caiff adborth o'r ymgynghoriad ei ystyried gan y Cabinet yn ystod ei gyfarfod ar 17 Chwefror cyn i gyllideb derfynol gael ei chynnig i'r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer y gyllideb ewch i https://www.abertawe.gov.uk/arolwgygyllideb

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Ionawr 2022