Cyfle i ddweud eich dweud am gynigion y cyngor ynghylch y gyllideb
Bydd preswylwyr y ddinas yn gallu dweud eu dweud am gynlluniau a fydd yn arwain at £15m yn ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau'r cyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gynigion cyllidebol Cyngor Abertawe a fydd yn mynd gerbron y cyngor llawn ar gyfer penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.
Mae'r cyngor yn gwario tua £550 miliwn o'r arian a gaiff gan Lywodraeth Cymru ac a geir drwy dreth y cyngor - cyfartaledd o ychydig llai na £5,000 ar bob aelwyd - yn y ddinas bob blwyddyn i gefnogi ein cymunedau, darparu ystod o wasanaethau sy'n amrywio o ofal cymdeithasol ac addysg i barciau, llyfrgelloedd, casgliadau ailgylchu a chynnal digwyddiadau mawr fel Gorymdaith y Nadolig a Sioe Awyr Cymru.
Nawr gofynnir i'r cyhoedd am eu barn ynghylch cynigion y gyllideb a fydd yn arwain at gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau hanfodol ar adeg anodd i gymunedau'r ddinas wrth iddynt ddelio â'r argyfwng costau byw.
I ddweud eich dweud ar y cynigion cyllidebol, ewch i'r ddolen hon Arolwg ymgmgynghori ar y gyllideb - Abertawe
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw ganol nos ar 11 Chwefror.