Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwch lygad am Nadolig i'w gofio yn Abertawe

Mae'n mynd i fod yn fis llawn hwyl yr wyl yn Abertawe, gan fod Gorymdaith y Nadolig, a fu'n llwyddiant ysgubol, wedi cychwyn y cyfnod sy'n arwain at 25 Rhagfyr yn swyddogol.

Swansea Christmas Parade 2023

Mae llawer yn digwydd yng nghanol y ddinas ac mae cymunedau ar draws y ddinas yn rhan o'r hwyl hefyd gan y bydd Siôn Corn a'i gar llusg yn ymweld ag 11 o gymdogaethau yn yr wythnosau sy'n dod ac wrth gwrs, cynhelir Diwrnod Fictoraidd Treforys ar 25 Tachwedd..

Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi grwpiau cymunedol lleol sy'n sefydlu Lleoedd Llesol Abertawe, mannau cymorth bwyd a gweithgareddau eraill y gaeaf hwn gyda'i Grant Galluogi Cymunedau o £500,000.

Mae rhagor o wybodaeth am sut gallwch fwynhau Abertawe dros y Nadolig i'w chael yma: https://www.croesobaeabertawe.com/nadolig-abertawe/

Archebwch docynnau ar gyfer Cinderella sy'n dechrau ar 9 Rhagfyr yma: https://www.grandabertawe.co.uk/Cinderella

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Tachwedd 2023