Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau bwyd newydd

Cyngor os ydych yn agor busnes bwyd newydd neu'n cymryd drosodd busnes sydd eisoes yn bodoli.

Mae 'busnes bwyd' yn cynnwys unrhyw fusnes (er elw neu nid er elw, preifat neu gyhoeddus) sy'n cyflawni unrhyw un, neu bob un, o'r gweithrediadau canlynol sy'n ymwneud â bwyd: paratoi, prosesu, cynhyrchu, pecynnu, storio, cludo, dosbarthu, trin neu gynnig ar werth.

Mae busnesau bwyd yn cynnwys: bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, ffreuturau staff, ceginau mewn swyddfeydd, warysau, gwestai bach, cerbydau cludo, cerbydau bwffe ar drenau, stondinau marchnad a stondinau eraill, faniau cŵn poeth a hufen iâ ac unrhyw fath arall o fusnes nad yw ar y rhestr hon ond sy'n cael ei ddefnyddio i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd.

'Gweithredwr busnes bwyd' yw'r personau naturiol neu gyfreithiol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gofynion cyfraith bwyd yn cael eu bodloni o fewn y busnes bwyd sy'n cael ei reoli ganddynt.

Os ydych yn rhedeg busnes bwyd neu'n ystyried cychwyn un, bydd angen i chi sicrhau bod y bwyd a'r ddiod y byddwch yn eu cynhyrchu'n ddiogel ac yn faethlon. Y rhai pwysicaf sy'n berthnasol i fusnesau bwyd yn benodol yw:

  • Rheoliad (CE) Rh. 852/2004 ar hylendid nwyddau bwyd
  • Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002
  • Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Mae'r rhain yn nodi gofynion hylendid sylfaenol pob agwedd ar eich busnes, o'ch adeilad a'ch cyfleusterau i hylendid personol eich staff. Maent hefyd yn nodi gofyniad i'r gweithredwr bwyd sicrhau nad yw'r bwyd a werthir yn anniogel, gan olygu na ddylai niweidio iechyd pobl neu fod yn anaddas i bobl ei fwyta.

Bydd pob busnes bwyd yn wynebu risgiau gwahanol, gan ddibynnu ar y math o fyd a gynhyrchir. Mae'n rhaid ystyried y math o fwyd a sut mae'n cael ei drin, ei drafod a'i storio wrth benderfynu a yw diogelwch yn cael ei beryglu. Mae rhai sefydliadau masnach yn cynhyrchu canllawiau gwirfoddol, a dylech wirio a yw eich busnes chi'n un o'r rhai sydd wedi'u cynnwys.

Os ydych chi'n ystyried dechrau busnes bwyd newydd mae angen gwneud llawer o waith cynllunio. Yn ogystal â sicrhau bod eich mangre bwyd wedi'i adeiladu'n iawn, gyda dyluniad, cynllun a hylendid da, mae angen i chi sicrhau eich bod chi a'ch staff wedi eich hyfforddi. Mae angen i chi hefyd gael systemau cywir ar waith i sicrhau bod y bwyd rydych chi'n ei werthu yn ddiogel ac o ansawdd da.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mehefin 2021