Toglo gwelededd dewislen symudol

33 o wasanaethau bysiau wedi'u diogelu fel rhan o gynllun gwerth £1m gan y Cyngor

Mae 33 o wasanaethau bysus hanfodol yn Abertawe sy'n darparu llwybrau cludiant cyhoeddus i ysbytai, lleoliadau hamdden a chanol y ddinas ac oddi yno, yn cael eu hamddiffyn am y pum mlynedd nesaf.

Passengers getting on bus at Castle Square

Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cynlluniau i fuddsoddi mwy nag £1 miliwn mewn gwasanaethau bysus lleol yn 2024, gan sicrhau nad yw teithiau bws hanfodol ar gyfer y cyhoedd sy'n teithio yn diflannu.

Mae llwybrau gan gynnwys canol y ddinas i Ysbyty Treforys, bysus rheolaidd rhwng Pennard a chanol y ddinas, ynghyd â gwasanaethau bysus ar draws y ddinas yn ystod nosweithiau Sul i gyd yn rhan o gynlluniau'r Cyngor i gynnal gwasanaethau o 2024 i 2028.

Bob blwyddyn mae'r Cyngor yn cymorthdalu gwasanaethau cludiant cyhoeddus y mae cwmnïau bysus yn dweud nad ydynt yn fasnachol dichonadwy, ac yn sicrhau eu bod yn parhau ar gyfer preswylwyr sy'n dibynnu ar fysus ar gyfer teithio i'r gwaith, ymweld â'r ysbyty, neu ymweld â theulu.

Ar gyfer 2024, mae pob un o'r 26 o gontractau a oedd yn cael eu cymorthdalu'n flaenorol yn cael eu cynnal, ynghyd â 7 contract newydd ar gyfer gwasanaethau a oedd mewn perygl o gael eu hatal gan weithredwyr cludiant.

Mae cyfanswm o £1,080,600.00 yn cael ei ddarparu gan y Cyngor i weithredwyr cludiant cyhoeddus, ynghyd â £2,515,095.24 pellach drwy raglen ariannu cymhorthdal bysus Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

 

Close Dewis iaith