Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau ffordd yn ceisio helpu modurwyr i symud

Mae mwy nag 20 o ffyrdd a strydoedd preswyl prysur yn cael eu hailwynebu eleni fel rhan o raglen cynnal a chadw sydd gwerth bron £6m.

philip street road repairs after

Mae deg prosiect mewn ardaloedd fel Townhill, Gendros, Cwmbwrla, Caswell a Threforys wedi'u cwblhau eisoes gydag 11 arall wedi'u clustnodi ar gyfer y misoedd sy'n dod.

Mae'r rhaglen cynnal a chadw'n dilyn cyfres o gynlluniau ail-wynebu a gwblhawyd fel rhan o gynlluniau'r llynedd. Roedd y ffyrdd a gwblhawyd yn cynnwys Townhill Road, Gellionnen Road a Cecil Road yn ardal Tre-gŵyr.

Mae dros £2.6 miliwn yn cael ei wario ar y cynlluniau ail-wynebu llawn a fydd yn digwydd dros y 12 mis nesaf. Bydd £1.1 filiwn pellach yn mynd tuag at y rhaglen PATCH ar draws y ddinas - cynllun sy'n sicrhau bod diffygion ffyrdd ar draws y ddinas yn cael eu hatgyweirio.

Mae'r holl brosiectau priffyrdd yn rhan o gynllun pum mlynedd hirdymor y cyngor sy'n rhedeg o 2020 i 2025.

I gael gwybod mwy am y cynlluniau ailwynebu sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2023/24 cliciwch yma:  Rhaglen Ailwynebu ffyrdd - Abertawe

I gael gwybod mwy am wasanaethau priffyrdd y cyngor, gan gynnwys PATCH a'r addewid tyllau yn y ffyrdd 48 awr, ewch yma: www.abertawe.gov.uk/priffyrdd

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Awst 2023