Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn rhoi hwb i'r stoc o dai fforddiadwy i'w rhentu

Mae cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu cannoedd yn fwy o gartrefi i'w rhentu yn Abertawe yn helpu teuluoedd y ddinas i ddod o hyd i leoedd fforddiadwy i fyw ynddynt.

council housing 1

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyngor wedi prynu mwy na 50 o dai cyngor yn ôl a werthwyd fel rhan o'r rhaglen hawl i brynu yn y gorffennol ac maent bellach yn cael eu gosod i denantiaid, gan ddarparu cartrefi cynnes a diogel iddynt hwy a'u teuluoedd.

Mae'r cynllun prynu'n ôl yn un elfen yn unig o benderfyniad y cyngor i helpu i leddfu'r pwysau cynyddol ar argaeledd tai fforddiadwy i'w rhentu yn Abertawe.

Mae hefyd wedi'i gynnwys yn rhaglen 10 mlynedd Rhagor o Gartrefi'r cyngor sy'n cynnwys adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy i'w rhentu ac eiddo sy'n defnyddio ynni'n effeithlon - y prosiect tai cyngor newydd cyntaf ers cenhedlaeth.

Mae'r rhaglen Rhagor o Gartrefi yn cael ei hariannu gan gymysgedd o incwm rhent gan denantiaid y cyngor a grantiau Llywodraeth Cymru. Ni ddaw unrhyw arian o dreth y cyngor.

Mae'r cynllun wedi ariannu cartrefi newydd ym Mlaen-y-maes, Gellifedw a'r Clâs ac yn ddiweddar ariannodd y gwaith o drawsnewid hen ganolfan seibiant Gwasanaethau Cymdeithasol Gorseinon yn ddau gartref tair ystafell wely newydd i breswylwyr lleol, yn ogystal â'r byngalos newydd a gwblhawyd yn ddiweddar yn West Cross.

Mae 160 o gartrefi newydd eraill hefyd ar y gweill yn ardal Brokesby Road ym Môn-y-maen, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy broses ymgynghori gyda phreswylwyr.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mai 2023