Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Buy With Confidence

Sefydlwyd y cynllun 'Buy With Confidence' gan bartneriaeth o Wasanaethau Safonau Masnach Awdurdod Lleol mewn ymateb i bryderon ynghylch 'masnachwyr twyllodrus'. Mae'r cynllun yn darparu rhestr o fusnesau sydd wedi'u hymrwymo i fasnachu'n deg i gwsmeriaid.

Buy With Confidence Swansea logo
Mae pob busnes a restrir wedi cwblhau cyfres o wiriadau manwl gan staff cymwys y Safonau Masnach cyn cael ei gymeradwyo fel aelod o'r cynllun.

Manteision y cynllun

  • sicrhau cwsmeriaid y gallant ymddiried ynoch a'ch bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid da
  • cyfeiriadur busnes ar y gwefan hwn, y gall y cyhoedd ei ddefnyddio i ddod o hyd i fusnesau dibynadwy
  • gwiriad gan y Safonau Masnach cyn cael eich cymeradwyo i sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n gyfreithiol
  • gallu defnyddio'r logo 'Buy With Confidence' a dweud eich bod wedi'ch cymeradwyo gan y safonau masnach
  • byddwch yn wahanol i fusnesau eraill - dim ond y rhai sy'n ddigon da i gyflawni'r broses archwilio sy'n rhan o'r cynllun
  • mae'n agored i'r rhan fwyaf o sectorau busnes, nid busnesau gwelliannau i gartrefi a/neu fasnachu cerbydau modur yn unig
  • mynediad at gyngor yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y Safonau Masnach a gyflogir gan yr awdurdod lleol
  • derbyn gwybodaeth am newidiadau i'r gyfraith y gallant effeithio ar eich busnes
  • nid er elw - cynhelir gan awdurdodau lleol, felly mae'r holl ffioedd yn cael eu hailbuddsoddi mewn cynnal a hyrwyddo'r cynllun
  • helpu i amddiffyn eich cymuned rhag masnachwyr twyllodrus a busnesau anghyfreithlon.

A fyddai'ch busnes chi'n elwa o gael ei gymeradwyo gan Safonau Masnach 'Buy With Confidence'?

Darganfyddwch sut i gyflwyno cais am y cynllun a'r manteision o sicrhau bod eich busnes wedi'i gymeradwyo (Yn agor ffenestr newydd) gan y safonau masnach ar wefan 'Buy With Confidence'.

Chwilio am fasnachwr neu fusnes y gallwch ymddiried ynddo

Gallwch osgoi masnachwyr twyllodrus a chefnogi'r rheini sydd wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd gyfreithiol, onest a theg trwy ddefnyddio busnesau a gymeradwyir gan Safonau Masnach 'Buy With Confidence'.

Chwiliwch am fasnachwr neu fusnes ar wefan 'Buy With Confidence' (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Medi 2021