Toglo gwelededd dewislen symudol

Safonau Masnach

Rydym yn gyfrifol am orfodi cyfreithiau defnyddwyr i annog masnachu teg, diogel a gonest. Mae ein gwaith yn helpu i ddiogelu busnesau a defnyddwyr rhag twyll a masnachu annheg.

Dylai siopwyr yn Abertawe fod yn gallu prynu nwyddau a gwasanaethau'n hyderus, gan wybod eu bod yn ddiogel ac wedi'u prisio a'u disgrifio'n gywir.

Os ydych yn cynnal busnes yn Abertawe, gallwn roi cyngor ac arweiniad i sicrhau eich bod yn masnachu o fewn y gyfraith. 

Gweithred dwyllodrus

Twyll yw cynllun sydd wedi'i greu i'ch twyllo i roi eich arian, eich manylion personol neu eich nwyddau. Mae'n anodd iawn i gael y rhain yn ôl os ydych wedi'u rhoi i dwyllwyr.

Cyngor i Ddefnyddwyr

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion defnyddwyr. Mae gan y wefan lawer o wybodaeth neu os hoffech chi siarad â rhywun, gallwch chi ffonio'r llinell gymorth i ddefnyddwyr neu ymweld â'ch swyddfa agosaf.

Cyngor masnachu

Dewch o hyd i'r cyngor gorau ar gyfer eich busnes gyda chyngor pwrpasol i'ch busnes a chyngor am ddim gan Y Sefydliad Safonau Masnach.

Buy With Confidence

Sefydlwyd y cynllun 'Buy With Confidence' gan bartneriaeth o Wasanaethau Safonau Masnach Awdurdod Lleol mewn ymateb i bryderon ynghylch 'masnachwyr twyllodrus'. Mae'r cynllun yn darparu rhestr o fusnesau sydd wedi'u hymrwymo i fasnachu'n deg i gwsmeriaid.

Parthau Dim Galw Diwahoddiad

Mae Parthau Dim Galw Diwahoddiad yn helpu i fynd i'r afael â throseddau stepen drws. Gallant atal galwyr diwahoddiad diegwyddor rhag mynd at bobl sy'n byw yn yr ardaloedd. Yn fwy pwysig, gallant roi'r hyder i bobl ddweud "Na".

Gwerthu i bobl dan oed

A hoffech weithio gyda Swyddogion Safonau Masnach a'r Heddlu? A hoffech helpu gyda gweithgareddau prawf prynu?

Nodau masnach a hawlfraint

Ym aml mae logos a dyluniadau wedi'u diogelu gan nodau masnach a deddfwriaeth hawlfraint, a dylai pobl sy'n gwerthu cynnyrch fel teisennau a chrefftau sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon.

Cysylltu â Safonau Masnach

Enw
Cysylltu â Safonau Masnach
Rhif ffôn
01792 635600

Masnachu ar y Sul

Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn gosod cyfyngiadau ar oriau agor rhai siopau manwerthu ar ddydd Sul.

Masnachu ar y stryd

Ystyr masnachu ar y stryd yw gwerthu neu gynnig gwerthu unrhyw eitem ar y stryd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ffordd, llwybr, traeth neu fan arall y mae gan y cyhoedd fynediad rhydd iddo.

Delwyr metel sgrap

Dylai unrhyw gwmni sy'n talu am fetel sgrap fel rhan o'i fusnes fod wedi'i drwyddedu.

Pontydd Pwyso

Caiff pontydd pwyso eu gosod yn y ddaear er mwyn gallu pwyso cerbydau a'u cynnwys. Yn aml, rheolir pontydd pwyso gan gwmnïau preifat sy'n eu cyflwyno i aelodau'r cyhoedd.

Trwyddedu a chofrestru tân gwyllt a ffrwydron

Os ydych yn gwerthu neu'n storio tân gwyllt, rhaid i chi gael trwydded gennym. Dylech hefyd storio tân gwyllt yn ddiogel, gwybod eich ymarfer tân ac arddangos arwydd lle caiff tân gwyllt eu cyflenwi neu eu dangos i'w cyflenwi.

Tystysgrifau storio petrolewm

Ceir deddfwriaeth sy'n ymwneud â storio petrol yn ddiogel er mwyn atal tân a ffrwydrad a allai ddigwydd os oes ffynhonnell danio gerllaw.
Close Dewis iaith