Bywyd ar ôl oes Arglwyddi Gŵyr - y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Yn y 19eg ganrif, adeiladwyd Swyddfa Bost fawreddog yn lle'r neuadd y dref yn y cwrt ac roedd adeiladau diwydiannol yn llenwi'r ffos rhwng yr hen gastell a'r castell newydd.
Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol gyflymu newidiodd diwydianwyr y tro yn yr hen afon islaw'r castell yn ddoc ar gyfer llongau mawr a chloddiwyd sianel newydd i greu llwybr mwy uniongyrchol i'r môr yn yr 1840au. Mae map Degwm 1843 a map Arolwg Ordnans argraffiad cyntaf 1878 yn dangos pa mor sylweddol fu'r newid yma. Llanwyd y doc yn ystod yr 1930au, ond mae enw'r stryd yma, 'Y Strand', sef hen air Saesneg am 'glan', yn ein hatgoffa bod yr afon a ddefnyddiwyd i gyflenwi'r castell yn arfer llifo ychydig yn is na muriau'r castell.
Beirdd yn y carchar
Defnyddiwyd y tŵr sgwâr fel carchar dyledwyr. Caniatawyd i garcharorion ddod ag offer eu swyddi er mwyn gallu gweithio i ad-dalu eu dyledion. Daeth rhwymwr llyfrau â'i weisg a dau brentis ifanc gydag ef. Roedd un o'r prentisiaid mor fach fel y gallai fynd a dod fel y dymunai drwy dwll yn wal y carchar. Efallai mai ef a ysgrifennodd y geiriau hyn ar un o'r drysau, rywbryd cyn i'r carchar gau yn 1858:
Croeso, croeso frawd ddyledwr,
I'r man gwael ond llawen hwn,
Lle na fyddai beili'n meiddio
Dangos hylltra'i wyneb crwn.
Ond fonheddwr, rwyt ddieithryn,
Dyro im dy fantell fraith,
Neu rho dâl i mi o bum swllt,
Cyn ailgychwyn ar dy daith. Trwy orchymyn y Pwyllgor.
Ysgrifennodd eraill ar y tu allan, "yn ddieithriad (carchar y castell) hwnyw'r enghraifft fwyaf llwm a thruenus y gall rhywun ei ddychmygu, nid yw'n ddim ond adfail". Roedd rhaid i garcharorion ddarparu eu dodrefn a'u bwyd eu hunain neu fel arall roedd hanfodion bywyd i'w cael gan geidwad y carchar yn unig - am grocbris!