Toglo gwelededd dewislen symudol

Bywyd ar ôl oes Arglwyddi Gŵyr - yr ugeinfed ganrif

Roedd sawl defnydd i'r castell a gwnaed ychwanegiadau ac addasiadau yn aml.

 Swansea Castle 20th Century photograph

 Swansea Castle 20th Century photograph
Mae ffotograff sy'n ddyddiedig 1911 yn dangos y barics milwrol yn cael eu dymchwel. Roedd y Cyrnol Morgan a oedd yn gwylio yn adnabyddus fel arbenigwr ar Gastell Abertawe a bu'n cloddio safle'r 'hen' gastell yn ddiweddarach. Yn 1914, ysgrifennodd "Mae'r Castell wedi gweld cyfnodau gwael, ond y presennol yw'r gwaethaf".

"Darllenwch am y cyfan"

Ym mlynyddoedd cynnar yr 1930au, gweithiodd Dylan Thomas yma, mab enwocaf Abertawe, fel newyddiadurwr ifanc ar y South Wales Daily Post. Bryd hynny, roedd cwrt y castell yn llawn o swyddfeydd a gweisg printio'r papur newydd. Yn 1932, gadawodd Dylan i farddoni, ond efallai mai'r castell a ysbrydolodd y llinellau 'Shut, too, in a tower of words'?

Bu bomio dwys yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac er bod adeiladau'r Daily Post wedi eu difrodi fe wnaethant oroesi ac ni chawsant eu clirio o gwrt y castell tan 1976. Wrth ailadeiladu'r dref ar ôl y Rhyfel roedd dyfodol y castell yn ansicr. Cafwyd trafodaethau ynghylch clirio ymaith y muriau a oedd ar ôl. 

Dilynwch hanes Dylan Thomas drwy ymweld â Canolfan Dylan Thomas (Yn agor ffenestr newydd) - i ganfod rhagor am fab enwog Abertawe. Neu fan geni Dylan yn rhif 5, Cwmdonkin Drive.