Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadernid Ecosystem

Mae ecosystem yn grŵp o bethau byw (anifeiliaid, gan gynnwys pobl, planhigion a ffyngau) sy'n byw ac yn rhyngweithio â'i gilydd mewn amgylchedd.

Mae ecosystemau'n darparu buddion i bobl fel peilliad, rheoli llifogydd, bwyd a dŵr. Gelwir yn rhain yn wasanaethau ecosystem.

Cadernid ecosystem yw gallu ecosystem i ddelio â phwysau (fel newid yn yr hinsawdd) a dal i allu darparu gwasanaethau ecosystem a buddion (fel peilliad) yn awr ac yn y dyfodol.

Mae ecosystem yn gadarn os yw:

  • yn Amrywiol (yn cynnwys llawer o gynefinoedd a rhywogaethau gwahanol);
  • yn Eang (yn gorchuddio ardaloedd mawr yn hytrach na rhai bach);
  • mewn Cyflwr da (heb ei niweidio gan bethau fel sbwriel neu rywogaethau goresgynnol);
  • wedi'i Gysylltu'n dda (cysylltir gwahanol leoedd, er enghraifft, gan wrychoedd) ac
  • yn Addasadwy (yn gallu delio â newidiadau fel cynhesu byd-eang)

Adroddiad Cadernid Ecosystem Abertawe

Mae Adroddiad Cadernid Ecosystem Abertawe (PDF) [3MB], a gynhyrchwyd gan  Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) (Yn agor ffenestr newydd) yn 2022, yn mapio cadernid ecosystem ar draws sir Abertawe. Mae mapio cadernid ecosystem yn dal i fod yn eithaf newydd, ond mae'r canlyniadau o adroddiad Abertawe yn ddefnyddiol ac yn dangos ardaloedd cadernid is (lliwiau golau) a chadernid uwch (lliwiau mwy tywyll) ledled y sir. 

Mae Adroddiad Cadernid Ecosystem Abertawe yn dangos bod cadernid yn is yn y rhan fwyaf o Abertawe Ceir y cadernid ecosystem isaf o gwmpas canol y ddinas. Mae'r ardaloedd lle ceir y cadernid ecosystem uchaf yn tueddu i fod lle mae safleoedd gwarchodedig sydd mewn bodolaeth fel Parc Gwledig Dyffryn Clun, neu Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob).

Mae'n bwysig bod cadernid ecosystem yn cael ei wella ar draws sir Abertawe, a bod ardaloedd o gadernid uchel yn cael eu gwarchod a'u cysylltu i ddarparu buddion hanfodol i bobl Abertawe ac wrth gwrs i fioamrywiaeth.