Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth i gyflenwyr - caffael a chontractau

Gwybodaeth am gaffael a chontractau gyda Dinas a Sir Abertawe.

Beth yw caffael cyhoeddus?

Caffael cyhoeddus yw'r broses a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus i gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan drydydd partïon i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth. Mae caffael yn cynnwys pob gweithgaredd, o nodi gofyniad i ddiwedd oes economaidd ddefnyddiol ased neu waredu ased.

Mae'r cyngor yn caffael amrywiaeth eang o ddeunyddiau, gwasanaethau a gwaith. Er enghraifft, deunyddiau ysgrifennu, trydan ac adeiladu ysgol newydd, hyd yn oed. Ar gyfartaledd, mae'r cyngor yn gwario dros £250 miliwn y flwyddyn ar sefydliadau allanol.

Defnyddir dull rheoli categorïau i drefnu ei wariant. Mae hyn yn grwpio cynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig ynghyd ac yn trefnu adnoddau'r tîm caffael. Mae hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar wariant y cyngor mewn categorïau penodol.

Mae gan y cyngor 9 categori o wariant ac mae'r rhain wedi'u grwpio mewn 3 chategori hollgyffredinol:

  • gofal cymdeithasol (gofal cymdeithasol i oedolion, addysg a gofal cymdeithasol i blant)
  • amgylchedd (deunyddiau adeiladu, gwasanaethau adeiladu)
  • adnoddau corfforaethol (anghenion corfforaethol, rheoli cyfleusterau, TGCh, trafnidiaeth a'r cerbydlu, gwasanaethau proffesiynol).

Pam delio â Chyngor Abertawe?

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod ei weithgareddau caffael yn cael eu cyflawni'n effeithlon, yn gyfreithlon ac yn foesgol wrth gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol preswylwyr Abertawe. Ar y cyfan, gwneir penderfyniadau ar sail gwerth am arian yn ogystal â'r gost isaf gan ystyried ffactorau ansawdd a chostau oes gyfan er enghraifft. Mae pob cyflenwr yn cael ei drin yn gyfartal a'i asesu ar rinweddau ei dendr drwy ei werthuso yn erbyn y meini prawf dyfarnu a nodir.

Dod i wybod am gyfleoedd contract Dod i wybod am gyfleoedd contract

Pa reolau, rheoliadau a gweithdrefnau caffael y mae'r cyngor yn eu dilyn?

Mae'r ffordd y mae'r cyngor yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn cael ei llywodraethu gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), deddfwriaeth y DU a Rheolau Gweithdrefnau Contractau mewnol y cyngor.

Mae gan Gyngor Abertawe ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â Chyfarwyddebau Caffael yr UE, sy'n rheoli'r ffordd y caiff caffael yn y sector cyhoeddus ei arwain ar gyfer contractau sydd dros y trothwy a nodir isod.

Trothwyon cyfredol yr UE (gwerthoedd yn effeithiol o 1 Ionawr 2024 am ddwy flynedd):

Trothwyon cyfredol yr UE
Math o gontractTrothwy
Gwasanaethau a chyflenwi£214,904
Gwaith£5,372,609
Gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau penodol eraill£663,540

Diben Cyfarwyddebau'r UE yw annog cystadleuaeth agored a thryloyw a gyflwynir drwy dendro cystadleuol drwy'r holl Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid i bob gweithgaredd caffael y sector cyhoeddus, gan gynnwys trothwyau'r UE, gydymffurfio ag Egwyddorion Cytuniad yr UE ar gyfer triniaeth gyfartal, peidio â gwahaniaethu, cydnabyddiaeth gan y ddwy ochr, cymesuroldeb a thryloywder.

Mae rheolau gweithdrefnau contractau'r cyngor yn darparu'r fframwaith ar gyfer sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario gyda chywirdeb ac atebolrwydd amlwg ni waeth beth yw'r gwerth.

Cyn canfod cyflenwyr allanol, bydd y cyngor yn nodi a ellir diwallu'r angen drwy gontract neu fframwaith presennol. Os nad oes modd diwallu'r angen drwy gontract neu fframwaith presennol, cynhelir cais am ddyfynbris neu broses dendro gan ddibynnu ar werth y contract.

Cyflenwyr lleol

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu'r economi leol a chefnogi cyflenwyr lleol ac mae'r arweiniad hwn yn rhan o'r gwaith hwnnw. Lle bynnag y bo modd, gwahoddir cyflenwyr lleol i roi dyfynbris ar gyfer contractau gwerth isel ac fe'u hanogir i wneud cais am dendrau. Anogir pob cyflenwr i gofrestru ar gyfer GwerthwchiGymru ac eTenderwales i sicrhau eu bod yn derbyn hysbysiadau am ddigwyddiadau caffael sydd ar ddod. Nid yw'r cyngor yn gallu gwahaniaethu o blaid cyflenwyr lleol; dyfernir contractau yn ôl y meini prawf gwerthuso a nodir yn y gwahoddiad i gynnig dyfynbris/tendr. Fodd bynnag, rydym yn annog sefydliadau lleol i wneud cais am gontractau gyda'r cyngor.

Busnes Cymru

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau newydd yng Nghymru a'r rheini sydd eisoes wedi'u sefydlu.

Mae llinyn Cefnogaeth Tendro Busnes Cymru' yn darparu cyngor ymarferol am ddim i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru i'w helpu i ddeall y broses gaffael ac i ddarparu cefnogaeth wrth baratoi holiaduron a thendrau cyn-cymhwyso.

I gael help a chymorth, gellir cysylltu â Chefnogaeth Tendro Busnes Cymru naill ai drwy ffonio 03000 6 03000 neu drwy'r porth gwe Busnes Cymru.

Close Dewis iaith