Gwneud busnes gyda'r cyngor
Cael gwybod am ein gwasanaethau masnachu, gofrestru fel cyflenwr newydd a dysgu am ein system prynu i dalu.
Daeth y gyfraith caffael cyhoeddus newydd (Deddf Caffael 2023) i rym ar 24 Chwefror 2025. Mae'r ddeddfwriaeth yn ei wneud yn ofynnol i gyflenwyr gael eu cofrestru ar y llwyfan digidol canolog (Canfod Tendr) ar gyfer pob contract dros £30,000 (gan gynnwys TAW). Bydd y Cyngor yn gofyn am rif adnabod unigryw cyflenwr o'r llwyfan digidol canolog cyn y gallant ddyfarnu unrhyw gontractau iddynt, felly mae'r Cyngor yn annog cyflenwyr i gofrestru. Dilynwch y ddolen hon am arweiniad ynghylch y broses gofrestru.
Caiff cyfleoedd contract eu hysbysebu o hyd ar GwerthwchiGymru. Cofrestrwch ar GwerthwchiGymru i sicrhau eich bod yn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd contract sy'n berthnasol i'ch cwmni. Mae cymorth ac adnoddau ar gael i gyflenwyr ar GwerthwchiGymru.
Yn 2019, datganodd Cyngor Abertawe argyfwng hinsawdd ac ers hynny, fel pob awdurdod lleol arall yn y DU, rydym wedi bod yn ymdrechu i gyrraedd targedau carbon sero net erbyn 2050. Gall pob busnes chwarae ei ran trwy wneud newidiadau i arbed ynni, lleihau gwastraff a chyflwyno rhagor o bolisïau sy'n llesol i'r hinsawdd. Mae Cyngor Abertawe'n falch o gynnig cefnogaeth i fusnesau sy'n ceisio newid i fod yn rhai sero net ac rydym yn falch o allu amlygu'r gyfres hon o weminarau Busnes Cymru a all eich helpu i roi newidiadau ar waith yn eich busnes a fydd o fudd i chi, eich cymuned a'r blaned.
Efallai yr hoffech ymuno yn ein Addewid hinsawdd