Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am drwydded forol ar gyfer prosiect diogelu arfodirol y Mwmbwls

Deddf y Mor a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, fod Dinas a Sir Abertawe wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gweithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, am drwydded forol ar gyfer Prosiect Diogelu Arfordirol y Mwmbwls.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2128. Yng ngoleuni'r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o'r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn'.

 

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i'r:

Tîm Trwyddedu Morol, Gwasanaeth Trwyddedu Caerdydd, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP.

neu yrru e-bost at: marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2128.

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth iddo.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, yn trosglwyddo copi o unrhyw sylw neu wrthwynebiad a dderbynnir i'r ymgeisydd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Ebrill 2023