Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls

Rydym yn gwella ac yn adnewyddu amddiffynfeydd môr arfordirol y Mwmbwls.

Welsh Government logo.

Bydd y gwaith yn lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau sy'n cael eu bygwth gan lefelau'r môr yn codi a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Sicrhawyd cyllid ar gyfer yr amddiffynfeydd newydd drwy Lywodraeth Cymru - ac rydym yn falch bod barn y cyhoedd, busnesau ac eraill wedi helpu i lunio'r prosiect sylweddol hwn.

 

Lleoliad a gwelliannau arfaethedig

Bydd y gwaith yn cryfhau'r amddiffynfeydd dros hyd o oddeutu 1km ar hyd promenâd y Mwmbwls.

Bydd yr amddiffynfeydd newydd yn amddiffyn cartrefi, busnesau ac amwynderau cyfagos.

Maent yn cynnwys nifer o rannau fel morglawdd fertigol a wal gynnal ar ogwydd - mae'r rhain yn cynnal y promenâd, gan ddarparu cyfleoedd hamdden i gerddwyr, beicwyr, preswylwyr ac ymwelwyr.

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls - y promenâd (map) (PDF) [4MB]

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls - lleoliad/maint y safle (map) (PDF) [4MB]

Oherwydd eu hoed ac erydiad, daeth yr amddiffynfeydd yn ddiffygiol. Rydym wedi gwneud atgyweiriadau niferus ers blynyddoedd lawer. 

Ein gwaith newydd yw atgyweirio'r adeileddau amddiffynfeydd môr presennol neu roi rhai newydd yn eu lle, gan ddarparu gwell amddiffyniad rhag y môr.

Roeddem yn falch bod preswylwyr, busnesau a phobl eraill yn y Mwmbwls wedi mynegi'u barn am ein cynlluniau - a gallant barhau i wneud hynny.

Gwelir enghreifftiau o'r amddiffynfeydd môr cyn i ni ddechrau ar ein gwaith isod, sy'n dangos y cyflwr saernïol gwael yr oedd angen sylw arno.

 

 

Amserlen prosiect

Amserlen prosiect
19eg ganrifAdeiladwyd amddiffynfeydd môr
20fed a'r 21ain ganrifAmddiffynfeydd môr yn cael eu cynnal a'u cadw; problemau newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu; lefelau môr yn codi
2015 

Llywodraeth Cymru yn lansio'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol; cyllid ar gael ar gyfer ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. 

Mae Cyngor Abertawe'n dechrau ystyried sut y gellid amddiffyn y Mwmbwls yn y dyfodol.

2018

Cyflwynodd y cyngor Achos Busnes Amlinellol i fynd i'r afael â'r perygl tymor hir o lifogydd ac amddiffynfeydd sy'n dirywio.

Y cyngor yn sicrhau cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun y disgwylir iddo gostio oddeutu £14m. Bydd y cyngor yn talu £2m o'r cyfanswm, a bydd Llywodraeth Cymru'n talu £12m.

2019

Gwnaed profion i asesu cyflwr adeiledd y morglawdd.  

Dechrau cynnwys y cyhoedd er mwyn hysbysu pobl y Mwmbwls o gynnydd y prosiect.

2020

Mae Coleg Imperial Llundain yn astudio lefelau'r môr a gweithgarwch y tonnau yn y Mwmbwls. Bydd data'n helpu i lywio dyluniad yr amddiffynfeydd newydd.

Mae'r cyngor yn penodi Amey Consulting fel partner dylunio; byddant yn gweithio gyda'r cyngor i ddylunio'r holl gynllun.

Llywodraeth Cymru yn lansio ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Yn agor ffenestr newydd)

2021

Cynllun cychwynnol ar gyfer y cynllun yn cael ei gyflwyno i aelodau Cabinet y cyngor.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllid ar gyfer nifer o gynlluniau yn Abertawe (Yn agor ffenestr newydd), gan gynnwys £495,000 i lunio achos busnes a dyluniad llawn - a £674,036 i ddechrau'r gwaith adeiladu - ar gyfer cynllun y Mwmbwls, a fydd yn amddiffyn dros 120 eiddo. Sicrhawyd cyllid hefyd ar gyfer ardaloedd perygl llifogydd megis Gellifedw, Blackpill, Cilâ, Llys Dol (Treforys), Gorseinon, Clydach, y Cocyd, West Cross a Llansamlet.

Mai - Mehefin
Ymgynghoriad cyhoeddus ar y morglawdd 
Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfleoedd yn y dyfodol

Mehefin - Gorffennaf
Rhoi adborth o'r ymgynghoriad i'r cyngor a'r cyhoedd

Haf
Cynhelir y broses ddylunio fanwl
Mae'r broses ceisiadau cynllunio'n dechrau gyda dyluniad manwl - gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus

2023Chwarter cyntaf
Mae'r prif waith adeiladu'n dechrau
2025Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddod i ben

 

Sut bydd yn edrych

(cliciwch ar y lluniau i weld fersiynau mwy)

 

 

 

Rhagor o wybodaeth

Mae'r adroddiadau hyn ymysg y rheini sydd ar gael i bawb eu hastudio ar wedudalen cais cynllunio'r prosiect:

  1. Arfarniad Ecolegol (adroddiad gan JBA Consulting)
  2. Asesiad Canlyniadau Llifogydd (JBA Consulting)
  3. Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd (LDA Design)
  4. Asesiadau Treftadaeth (JBA Consulting)
  5. Arolwg Coed (Mackley Davies Associates)

 

Gwedudalennau prosiect y prif gontractwr - Knights Brown (Yn agor ffenestr newydd)

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am y gwaith sy'n cael ei wneud ar amddiffynfeydd morol y Mwmbwls.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2024