Toglo gwelededd dewislen symudol

Canclwm Japan

Mae canclwm Japan yn rhywogaeth ymledol o blanhigyn a dyma'r cyflymaf ei dwf yn y DU.

Gall canclwm dyfu bron unrhyw le ac mae'n achosi llawer o broblemau, gan gynnwys colli rhywogaethau planhigion brodorol, difrod ffisegol, lledaeniad buan, gostyngiad mewn gwerthoedd tir ac anhawster cael morgeisi.

Mae canclwm yn tyfu bron ym mhob cynefin a math o bridd ac nid yw ei dwf yn dibynnu ar hinsawdd. Yn Abertawe, mae i'w weld ar draethau, glaswelltir, tir gwlyb, ar hyd cyrsiau dŵr, mewn gerddi, tir diffaith, mynwentydd ac argloddiau a gwrychoedd rheilffyrdd.

Sut olwg sydd ar ganclwm Japan (PDF) [892KB]

Rheoli canclwm Japan

Mae'n anodd iawn cael gwared ar ganclwm Japan yn llwyr oherwydd gall hyd yn oed darnau bach o'r planhigyn dyfu'n blanhigion newydd.

Rydym yn cynnig gwasanaeth i dirfeddianwyr i helpu i reoli canclwm Japan rhag lledaenu.

Gwnewch gais am ddyfynbris i drin eich canclwm Japan

Rydym yn cynnig gwasanaeth i drin tir yr effeithir arno gan ganclwm Japan.

Cwestiynau cyffredin a ofynnir am drin canclwm Japan

Cwestiynau cyffredin a ofynnir am ein gwasanaeth i drin canclwm Japan.

Gwasanaeth e-bost - canclwm Japan

Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth bwletin e-bost 'Canclwm Japan' am ddim.
Close Dewis iaith