Toglo gwelededd dewislen symudol

Caneuon Abertawe

Portreadau hynod wedi'u creu gan ofalwyr ifanc Abertawe yn bywiogi canol y ddinas.

Mae Caneuon Abertawe yn dathlu bywydau gofalwyr ifanc drwy gyfres o bortreadau mympwyol wedi'u gosod ochr yn ochr â geiriau caneuon sy'n adlewyrchu cymeriadau unigol y bobl ifanc a gynrychiolir.

Mae gofalwr ifanc yn blentyn neu'n berson ifanc y mae gofalu am rywun ag anabledd neu salwch tymor hir yn effeithio ar ei fywyd, ac yn aml, bydd yn ysgwyddo cyfrifoldebau sydd fel arfer yn ddisgwyliedig gan oedolyn.

Hwylusir y prosiect Caneuon Abertawe gan yr artist Soozy Roberts, ac mae hi wedi rhoi cyfle i'r gofalwyr ifanc o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe i gael hwyl a bod yn greadigol, gan ddarparu seibiant gwerthfawr.

"Mae gan gerddoriaeth y pŵer i'n hysbrydoli, ein cynhyrfu a gwneud i ni deimlo'n fwy cysylltiedig. Rwy'n gobeithio y bydd y lluniau a'r caneuon lliwgar hyn yn siarad â phobl sy'n mynd heibio gan roi ychydig o lawenydd neu obaith iddynt. Yn ystod y pandemig, mae'r effeithiau ar bobl ifanc a gofalwyr ifanc yn arbennig wedi bod yn enfawr. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd yn bersonol â'r bobl ifanc eto a'u cefnogi - mae e' mor hanfodol i'w lles." - Soozy Roberts

Cyflwynir y lluniau hynod yng nghanol y ddinas ynghyd â geiriau caneuon poblogaidd, wedi'u gosod yn erbyn lliwiau llachar a chryf fel rhan o Raglen Gelfyddydau Ganolog Abertawe

Gallwch weld portreadau'r gofalwyr ifanc, ynghyd â geiriau'r caneuon sy'n cyd-fynd â nhw, ar yr hysbysfyrddau o gwmpas cynllun adfywio gwerth £135m Bae Copr Abertawe, yn agos i siop Iceland.

Caneuon Abertawe Swansea Songs

Close Dewis iaith