Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Cam-drin Domestig

Mae'r Ganolfan Cam-drin Domestig yn dylynu ac yn cyflwyno ymateb amlochrog at gam-drin domestig mewn teuluoedd. Mae'r swyddogaethau allweddol yn cynnwys:

  • Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth: Darparu cefnogaeth amserol a phriodol i deuluoedd lle mae pryder ynghylch cam-drin domestig.
  • Rhaglen Ecwilibriwm: Ymyrraeth newid ymddygiad ar gyfer unigolion sy'n euog o gam-drin domestig.
  • Cefnogaeth i ddioddefwyr / goroeswyr a phobl ifanc: Cyflwyno ymyriadau un-i-un a chefnogaeth grŵp i helpu unigolion i ailadeiladu diogelwch a lles.
  • Rhaglen Gwrthwynebiad Di-drais: Ymagwedd at fagu plant sy'n cefnogi gofalwyr wrth iddynt ymateb i drais plentyn yn erbyn rhiant a gwella perthnasoedd teulu.
  • Ymateb i Hysbysiadau Diogelu'r Heddlu lle nodir mai cam-drin domestig yw'r rheswm dros gynnwys yr heddlu.
  • Sicrhau bod yr holl gysylltiadau cam-drin domestig yn cael eu hadolygu gan weithiwr cymdeithasol cymwys yn y ganolfan a fydd yn asesu risg ac yn penderfynu ar y camau nesaf.

Eiriolwr Annibynnol ar Drais Domestig sy'n gweithio'n agos gyda'r ganolfan. Maent yn darparu cefnogaeth arbenigol i ddioddefwyr risk uchel cam-drin domestig gan gynnwys cynllunio ar gyfer diogelwch, eiriolaeth a chydlyniad amlasiantaeth.

Enw
Canolfan Cam-drin Domestig
Rhif ffôn
01792 635700
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2025