Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfannau Gweithgreddau Gŵyr

#DarganfodGwyr!

Canolfannau Gweithgareddau Gwyr.

Mae ein canolfannau gweithgareddau yn Rhosili a Phorth Einon yn cynnig llety gwych i brofi'r hyn sydd gan Benrhyn Gwyr i'w gynnig, heb son am olygfeydd gogoneddus y mae'n rhaid eu gweld i'w gwerthfawrogi.

Am dros 30 o flynyddoedd, rydym wedi bod yn darparu gweithgareddau, digwyddiadau ac addysg ac rydym yn ymfalchio yn y profiadau a'r atgofion rydym wedi helpu i'w creu.

Boed hynny'n syrffio, yn ddringo creigiau, yn gaiacio, yn feicio mynydd neu'n ddianc am ychydig er mwyn ymlacio a mwynhau'r golygfeydd, mae gennym rywbeth at ddant pawb.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a cholegau er mwyn darparu rhaglenni preswyl wythnos a hanner wythnos, yn ogystal a chreu gwyliau gweithgareddau wedi'u teilwra i grwpiau, teuluoedd, ac unrhyw un sydd am brofi ein Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu! 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ebrill 2024