Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad gwerth £96m wedi'i gynllunio ar gyfer prosiectau mawr yn Abertawe

Mae buddsoddiad mawr ar y gweill ar gyfer maes chwarae cymunedol, ardaloedd chwarae i blant, datblygiadau canol y ddinas ac amddiffynfeydd môr y Mwmbwls dros y misoedd i ddod.

play area opening cheers

Disgwylir i Gyngor Abertawe wario mwy na £750,000 ar ei raglen uwchraddio ardaloedd chwarae sydd wedi gweld mwy na 50 o gymdogaethau'n cael siglenni, rowndabowts a chyfleusterau newydd eraill.

Mae oddeutu £235,000 hefyd wedi'i ddyrannu ar gyfer uwchraddio ystafelloedd newid Mynydd Newydd, ger y gwelliannau diweddar i gae chwarae 3G Bryn Tawe. Ac mae £217,000 arall wedi'i ddyrannu er mwyn creu mynedfeydd newydd ym Marchnad Abertawe.

Yn ogystal â hynny, bydd cam nesaf yn y gwaith o adfywio Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yn cael hwb o fwy na £18.25m ar gyfer adfer adeilad labordy'r ardal.

Hefyd bydd datblygiad hwb cymunedol yng nghanol y ddinas ac amddiffynfeydd môr y Mwmbwls yn rhannu oddeutu £25m wrth i'r rhaglenni barhau yn y flwyddyn sydd i ddod.

Mae disgwyl i adroddiad ar y gwariant cyfalaf arfaethedig o fwy na £96m yn Abertawe yn y flwyddyn i ddod fynd gerbron y Cyngor er mwyn penderfynu arno ar 6 Mawrth. Daw'r arian o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys benthyciadau, derbyniadau cyfalaf a grantiau gan y Fargen Ddinesig, a llywodraethau Cymru a'r DU.