Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad mawr yn yr arfaeth ar gyfer prosiectau allweddol yn Abertawe eleni

Mae degau ar filiynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn ysgolion, cymunedau'r ddinas a phrosiectau pwysig yn y flwyddyn i ddod gan gynnwys Gerddi Sgwâr y Castell, 71/72 Ffordd y Brenin ac amddiffynfeydd môr ar gyfer y Mwmbwls.

Arena from above

Bydd £770,000 o arian y gronfa'n cael ei fuddsoddi ym mhrosiect ardaloedd chwarae hynod boblogaidd y Cyngor, sy'n werth £7 miliwn, fel y gall cymdogaethau elwa o gynllun sydd eisoes wedi arwain at uwchraddio mwy na 50 o fannau hamdden i blant.

A gall preswylwyr hefyd ddisgwyl gweld £5.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau ffyrdd, yn ychwanegol i gynlluniau gwerth £3.1 miliwn ar gyfer safle parcio a theithio newydd yng Nghwm Tawe.

Mae'r gwariant wedi'i amlinellu mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ar 15 Chwefror, sy'n nodi'r cynlluniau ar gyfer £142 miliwn o wariant cyfalaf gan y Cyngor ar brosiectau mawr yn y flwyddyn sydd i ddod. Bydd y cynigion, os cânt eu cymeradwyo, yn mynd gerbron y cyngor llawn ar 7 Mawrth er mwyn gwneud penderfyniad terfynol.